British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 16:02 GMT 17:02 UK
Siom: 'Ddim yn cyrraedd llwyfan'

Eisteddfod Abertawe
Cafodd Sally Evans ei hurddo yn Eisteddfod Abertawe

Mae gwraig 90 oed, aelod o Orsedd y Beirdd, yn anfodlon am na all fynd ar y llwyfan ddydd Gwener fel rhan o Seremoni'r Cadeirio.

Dywedodd Sally Evans o Orseinon ger Abertawe na chafodd docyn ar gyfer y seremoni er iddi dderbyn rhai ar gyfer dydd Llun.

Mae Bwrdd yr Orsedd wedi dweud bod y llwyfan yn llawn ac nad oes 'na le i nifer sydd wedi gwneud cais eleni.

Roedd y bwrdd yn tarfod y mater ddydd Mawrth.

Mae Mrs Evans ymhlith nifer o aelodau'r Orsedd na fydd yn gallu mynd i'r pafiliwn ar gyfer Seremoni'r Cadeirio.

Cafodd ei hurddo er anrhydedd dair blynedd yn ôl yn Abertawe.

'Siomedig'

Mae hi wedi bod i'r Brifwyl am fwy na hanner canrif a bu'n gwasanaethu fel stiward am gyfnod hir.

"Roeddwn i'n edrych ymlaen at fynd i'r Orsedd ddydd Gwener gan fy mod yno ddydd Llun," meddai.

"Ond fe geson ni wybod nad oedd tocyn ar 'y nghyfer i na'r ferch ac rydyn ni'n siomedig iawn.

"Dyw hyn ddim wedi digwydd o'r blaen.

"Roedd yn fraint i mi gael fy anrhydeddu yn ddiweddar ac roeddwn i'n teimlo rheidrwydd i fynd.

"Dwi'n eitha grac mod i ddim yn gallu mynd."

Roedd awgrym fod tua 70 o bobl ar y rhestr aros i gael lle erbyn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Orsedd fod ceisiadau nifer am seddi fwy na thebyg wedi cyrraedd yn rhy hwyr eleni.

Hwn oedd y rheswm am y dryswch, meddai.

Munud olaf

"Dwi'n siomedig iawn eu bod yn ymateb fel yma," meddai Dyfrig Roberts, Arwyddfardd yr Orsedd sy'n gyfrifol am y tocynnau.

"Mae pawb wnaeth gais a anfonodd y ffurflen yn ôl mewn da bryd wedi cael tocyn ond dwi'n deall na chafodd ambell un y ffurflen.

"Ond fe ddaeth 'na geisiadau munud olaf ac, yn anffodus, roedd y lle yn llawn.

"Dwi wedi llythyru ac wedi siarad ar y ffôn gyda'r rhai na chafodd le i egluro ac maen nhw wedi bod yn rhesymol ac mae'n sioc eu bod nhw'n honni eu bod nhw wedi cael eu gwrthod."

Dywedodd bod angen i'r aelodau ymateb yn brydlon.

Yn ôl yr Arwyddfardd, does dim y gellir ei wneud i newid y sefyllfa eleni.

Ond mae Mrs Evans yn dweud bod rhaid ail edrych ar y sefyllfa ac o bosib bod 'na ormod yn cael eu anrhydeddu i'r Orsedd.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific