British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Awst 2009, 19:42 GMT 20:42 UK
Wigley: 'Cynhaliwch bleidlais'

Dafydd Wigley
Dafydd Wigley: 'System wedi methu'

Mae cynlywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, wedi galw am refferendwm y flwyddyn nesa yn achos mwy o bwerau i'r cynulliad.

Yng nghyfarfod Senedd i Gymru yn yr Eisteddfod yn Y Bala dywedodd fod y "system ddatganoledig bresennol wedi methu".

Y rheswm am hyn, meddai, oedd Aelodau Seneddol a gweinidogion yn Llundain a dim digon o geisiadau am bwerau cyfreithiol yn cael eu cymeradwyo.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sefydlodd y system bresennol.

"Yn wreiddiol, y disgwyl oedd y byddai saith mesur yn cael eu cymeradwyo bob blwyddyn," meddai Mr Wigley.

"Mewn dwy flynedd mae pedwar cais wedi cael eu cymeradwyo.

"Gan nad yw Aelodau Seneddol na gweinidogion Llundain wedi sicrhau bod y drefn Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn gweithio does dim dewis ond rhoi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad, yr un rhai â'r Alban a'r Gogledd Iwerddon."

Dywedodd na fyddai modd cynnal refferendwm cyn etholiad cyffredinol. Y disgwyl yw y bydd un ym mis Mai.

"Does dim rheswm pam na ellid cynnal refferendwm yn hydref 2010," meddai.

Dywedodd fod oedi o ran "materion pwysig" oherwydd "cecru" Aelodau Seneddol.

Galwodd ar Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, i "wneud popeth o fewn ei allu" i ganiatáu refferendwm os oedd y cynulliad yn dymuno hynny.



HEFYD
Casglu barn am bwerau iaith
03 Awst 09 |  Newyddion
Hain: Mwy o bwerau cyn 2011
01 Awst 09 |  Newyddion
Cais iaith: Cyhoeddi adroddiad
07 Gorff 09 |  Newyddion
Deddfu ar dai: Cais newydd
16 Meh 09 |  Newyddion
Iaith: 'Angen pwerau eang'
05 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific