British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Awst 2009, 19:03 GMT 20:03 UK
Ysgolion: Llais yn cefnu ar broses

Ysgol fach
Llais: Canllawiau presennol yn 'ddiffygiol'

Mae Llais Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n rhoi'r gorau i fod yn rhan o ymgynghoriad am ddyfodol ysgolion bach.

Dywedodd y blaid fod y sefyllfa ariannol wedi newid sy'n golygu y bydd yn rhaid i'r cyngor gau ysgolion er mwyn arbed arian.

Mae'r cyngor wedi dweud bod yr ymgynghoriad yn parhau.

Ar Faes yr Eisteddfod dywedodd y blaid enillodd 13 o seddi ar Gyngor Gwynedd yn etholiad 2008 y bydden nhw'n galw ar y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, i gyhoeddi canllawiau newydd sy'n rhoi'r un hawliau i ysgolion Cymru ag ysgolion gwledig rhannau eraill o Brydain.

Mae'r blaid wedi honni bod y canllawiau presennol yn ddiffygiol ac y bydden nhw'n arwain yn anorfod at gau ysgolion ar raddfa eang.

Roedd bygythiad i ysgolion gwledig yn bwnc llosg yng Ngwynedd yn yr etholiad.

'Gwrthwynebu'

"Rydan ni'n llwyr wrthwynebu cau ysgolion er mwyn arbed arian os yw hynny'n groes i ddymuniad y gymuned leol," meddai arweinydd Llais Gwynedd ar y cyngor, y Cynghorydd Owain Williams.

"I'r diben hwn, mi fyddwn ni'n ymgyrchu'n ddiflino er mwyn sicrhau mai rheini a llywodraethwyr ysgolion nid cyfrifwyr sy'n penderfynu dyfodol ysgolion gwledig."

Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio barn pobl am ddyfodol ysgolion gwledig ym Mro Dysynni lle mae chwech o ysgolion o dan fygythiad.

"Er i'r cyngor ddweud nad oed penderfyniad eto, daeth yn amlwg, a chafodd hyn ei gadarnhau gan swyddogion addysg blaenllaw mewn cyfarfod cyhoeddus, fod cyfanswm o 25 o ysgolion gwledig Gwynedd ar y rhestr cau," meddai Mr Williams.

"Bydd hynny'n gwireddu'r cynlluniau fu gan y cyngor ar gyfer ysgolion gwledig cyn yr etholiad," meddai.

Ildio sedd

Oherwydd penderfyniad Llais Gwynedd i beidio â mynd i fwy o gyfarfodydd ymgynghori mae'r Cynghorydd Seimon Glyn yn ildio ei sedd ar Weithgor Ad-drefnu Ysgolion Gwynedd.

"Mae Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon yn ogystal ag awdurdodau addysg yn Lloegr yn rhagdybio yn erbyn cau ysgolion yng nghefn gwlad," meddai.

"Rydan ni'n galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd yr un safbwynt drwy ddarparu'r cyllid angenrheidiol i amddiffyn conglfeini ein bywyd gwledig am genedlaethau i ddod."

Mae'r blaid yn casglu enwau ar gyfer deiseb sy'n galw ar y cyngor i roi heibio cynlluniau i gau 25 o ysgolion gwledig.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific