British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 07:11 GMT 08:11 UK
Digidol: Beth am anghenion Cymru?

Band eang
Pwyllgor: 'Angen cynllun pwrpasol ar gyfer Cymru'

Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad a Swyddfa Cymru sicrhau bod cynlluniau'r oes ddigidol yn darparu ar gyfer anghenion Cymru, medd pwyllgor Aelodau Seneddol.

Mae adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi galw am roi blaenoriaeth ar frys i ardaloedd heb wasanaeth band eang neu'n cael gwasanaeth araf.

Yn ôl yr Aelodau Seneddol, mae angen mwy o help fel y bydd mwy o bobl yn gallu defnyddio'r dechnoleg newydd yn effeithiol.

Dywedodd nad oes ystyriaeth wedi bod i anghenion siaradwyr Cymraeg yng nghynllun Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Prydain.

Cymhleth

Mae'r adroddiad wedi edrych ar y defnydd o dechnoleg ddigidol yng Nghymru wrth i Brydain baratoi ar gyfer yr oes ddigidol.

Eisoes mae sylwebwyr wedi dweud bod yr agenda'n gyfuniad cymhleth o faterion wedi eu datganoli a rhai y mae Llywodraeth Prydain yn eu rheoli.

Oherwydd hynny, yn ôl y pwyllgor, mae 'na berygl nad yw rhai materion yn cael digon o sylw.

Dylai Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, meddai'r pwyllgor, sicrhau bod cyrff yng Nghymru yn rhan lawn o gynlluniau wrth baratoi ar gyfer yr oes ddigidol.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, y Dr Hywel Francis: "Does gan Gymru ddim heriau sy'n fwy nag yn llai nag unrhyw genedl arall wrth geisio sicrhau bod pawb yn gallu bod yn rhan o'r oes ddigidol.

"Ond mae gan Gymru anghenion arbennig, er enghraifft yng nghyswllt yr iaith Gymraeg, ac mae'n hanfodol bod yr anghenion yn cael eu hystyried yn ofalus."

'Pwrpasol'

Dywedodd fod arferion da yn bod yn barod.

"Ond beth sydd ei angen nawr yw canolbwyntio ar anghenion pobl Cymru a chael cynllun pwrpasol ar gyfer Cymru ddigidol ..."

Mae cyflogwyr wedi dweud wrth y pwyllgor fod angen mwy o staff gyda gwell sgiliau technoleg gwybodaeth - a mwy o gyfleoedd hyfforddi.

Dywedodd y pwyllgor y dylai'r mater fod yn rhan o strategaeth ddigidol Llywodraeth y Cynulliad.

Wrth gyhoeddi adroddiad Prydain Ddigidol ym mis Gorffennaf fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Ben Bradshaw mai un o'r prif flaenoriaethau oedd sicrhau y byddai 'na gysylltiad cyflym â'r we fyd-eang ar gael ymhob rhan o Brydain.



HEFYD
Cyhoeddi adroddiad "Prydain Ddigidol"
16 Meh 09 |  Newyddion
Troi'n ddigidol: Datgelu dyddiad
09 Rhag 08 |  Newyddion
S4C: Her yr oes ddigidol
15 Hyd 08 |  Newyddion
Troi'n ddigidol: Blwyddyn i fynd
08 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific