British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 07:32 GMT 08:32 UK
'Dylai'r wyl barhau i deithio'

Nick Capaldi
Dyma ymweliad cyntaf Nick Capaldi 'r Eisteddfod

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ei bod yn bwysig bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dal i deithio ac ymweld â gwahanol ardaloedd o Gymru.

Dyma oedd ymweliad cyntaf Nick Capaldi â'r Eisteddfod Genedlaethol ychydig dros flwyddyn ers iddo gael ei benodi yn bennaeth.

Eglurodd bod y profiad o fod ar y Maes yn gwbl wahanol i'r hyn yr oedd wedi ei ddychmygu.

Dywedodd hefyd bod yr Eisteddfod yn cynnig golwg eang o'r celfyddydau.

"Yn bersonol dwi'n credu y dylai'r Eisteddfod ddal i symud a rhoi cyfle i bobl mewn gwahanol ardaloedd.

"Mae'n caniatáu i bobl gael perchnogaeth, i lywio gweithgareddau sy'n berthnasol i'r llefydd hynny.

"Mae Cymru yn wlad amrywiol iawn mewn gwahanol ffyrdd, ac mae angen mynegi mewn ffyrdd gwahanol.

"Dwi'n edrych ymlaen, er fy mod yn mwynhau yma yn Y Bala, i weld be fydd ar gael ym Mlaenau Gwent."

'Tyfu a goroesi'

Ond dywedodd y cyn pianydd proffesiynol y dylai digwyddiadau mawr a phwysig fel yr Eisteddfod gael cefnogaeth ariannol haeddiannol.

"All pethau fel yma ddim dibynnu ar nawdd a gwerthiant tocynnau yn unig.

"Mae'n bwysig ein bod yn un o'r prif ddigwyddiadau celfyddydol, yn canfod ffyrdd i'r eisteddfod ddal i barhau fel y mae ond i dyfu a goroesi.

"Mae'r fformiwla arian gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnig sylfaen ond mae'n bwysig ein bod o fewn y sector gyhoeddus yn gwneud ein rhan a chanfod ffyrdd i gefnogi'r Eisteddfod.

"Mae'n allweddol bwysig ei fod yn faromedr o gryfder a hyder y diwylliant Cymraeg.

"Mae Eisteddfod gref yn adlewyrchu cenedl gref a'r cyfan yn mynd law yn llaw.

"Mae'n bwysig gwarchod yr hyn sydd ar gael, bod yr Eisteddfod yn unigryw a deniadol a phwysig."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific