British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Awst 2009, 14:27 GMT 15:27 UK
Urddo Tanni a Connie

Connie Fisher
Connie: "Mae'n wefr i fod yma"

Cafodd Tanni Grey-Thompson a Connie Fisher eu hanrhydeddu fore Llun am eu cyfraniad yn eu meysydd drwy gael eu hurddo'n aelodau o Orsedd Y Beirdd.

Roedd y ddwy ymysg 35 o bobl gafodd eu hurddo ar y Maes.

Roedd y ddwy yn ei gwisgoedd gwyrdd cyn y seremoni, yn edrych ymlaen ond yn nerfus iawn.

Tanni o Lwynog yw enw'r athletwraig a Connie o'r Bryniau yw enw'r gantores yng Ngorsedd y Beirdd.

Cyn y seremoni dywedodd Tanni ei bod yn nerfus iawn ond eto yn edrych ymlaen.

"Dyma'r tro cyntaf i mi ymweld â'r Eisteddfod ac felly mae cael fy urddo heddiw hefyd yn eithaf brawychus," meddai.

"Dwi wedi tyfu fyny yn gwylio'r seremoni ar y teledu ac mae'n foment arbennig iawn.

"Mae'n anrhydedd arbennig.

"Mae fy nheulu i gyd yn falch iawn hefyd ac mae fy nhad yma heddiw."

Dyweddïo

Dywedodd y gantores Connie Fisher, sydd ar hyn o bryd yn perfformio yn The Sound of Music yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, ei bod yn gyffrous iawn.

Tanni Grey-Thompson
Tanni: "Y tro cyntaf i mi ymweld 'r Eisteddfod"

"Mae'n wefr i fod yma ac i gael fy nerbyn i'r Orsedd.

"Dwi'n Saesnes sydd wedi dysgu'r Gymraeg a chael fy magu yng Nghymru ac mae cael fy nghydnabod yn y ffordd yma yn wir anrhydedd."

Daeth y gantores i'r Maes ddyddiau'n unig ar ôl dyweddïo â Jeremy Reed.

'Cymryd rhan'

Dywedodd mai dyma oedd ymweliad cyntaf Jeremy â'r Eisteddfod a'i bod hi'n dysgu Cymraeg iddo.

"Mae Mam yma hefyd ond mae fy nain adre yng Nghaerfyrddin yn gwylio ar y teledu gan ei bod yn 86 oed.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael dod yn ôl pan fyddaf yn gallu a chymryd rhan yn yr Orsedd."

Er ei bod yn gartrefol ar y llwyfan fel cyn enillydd dywedodd nad oedd wedi breuddwydio bod yn yr Orsedd erioed gan ei bod yn credu y byddai rhaid iddi basio arholiadau.

"Ond mae cael fy nerbyn er anrhydedd, wir yn anrhydedd."

Wrth gael ei derbyn i'r Orsedd gan yr Archdderwydd Selwyn Iolen dywedodd wrth Tanni mai efallai mai ganddi hi oedd y gadair enwocaf, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y byd.

Ond fe wnaeth ei rhybuddio mai dim ond dwy fedal y byddai modd iddi ennill yn y brifwyl o'u cymharu â'r nifer sydd ganddi.

Fe wnaeth yr Archdderwydd longyfarch Connie ar ei dyweddïad gan ychwanegu ei fod yn falch bod y gantores yn cydnabod y cyfle y cafodd mewn eisteddfodau bach a mawr er mwyn hybu ei gyrfa.

Fe fydd mwy o Gymry yn cael eu hurddo er anrhydedd yn Seremoni'r Orsedd ddydd Gwener.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific