British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Awst 2009, 08:11 GMT 09:11 UK
Araith ar y Maes: 'Dyfodol Llafur'

Carwyn Jones
Fe fydd Carwyn Jones yn areithio ar y Maes

Fe wnaeth Carwyn Jones, un o'r rhai allai fod yn y ras i olynu Rhodri Morgan, amlinellu ei weledigaeth am ddyfodol ei blaid mewn araith ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.

Yng nghyfarfod Cymdeithas Cledwyn, dywedodd Aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr na all y blaid ddibynnu ar ei phleidlais graidd i sicrhau mwyafrif.

Dywedodd Mr Jones, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth y Cynulliad, bod rhaid ymgyrchu i berswadio pobl newydd i bleidleisio dros Lafur.

Galwodd am "glymblaid chwarae teg" yn seiliedig ar degwch, cyfiawnder a chyfleoedd.

Galwodd am strategaeth newydd ar yr iaith Gymraeg, yn seiliedig ar annog defnydd o'r iaith ac adfywio cymunedau.

Rhybuddio

Rhybuddiodd bod y blaid wedi colli cefnogaeth gref ymysg cymunedau o leiafrifoedd du ac ethnig, yn bennaf oherwydd y rhyfeloedd yn Affghanistan ac Irac.

Tra dywedodd bod y Blaid Lafur yn sosialaidd, pwysleisiodd yr angen i roi mwy o bwer i ddinasyddion a chodi eu disgwyliadau.

Ar Fedi 29 fe fydd Mr Morgan yn 70 oed. Mae wedi dweud ei fod yn bwriadu ymddeol fel arweinydd y blaid tua'r adeg honno ond yn dal i fod yn AC Gorllewin Caerdydd tan 2011.

Hyd yn hyn does neb wedi cyhoeddi'n ffurfiol eu bwriad i ymgeisio ond gallai Andrew Davies, Edwina Hart a Huw Lewis fod yn ymgeiswyr.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Pwy fydd olynydd Morgan?
09 Chwef 08 |  Newyddion
Llafur: Colli yn y cadarnleoedd
02 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific