British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 2 Awst 2009, 12:40 GMT 13:40 UK
Wal Tryweryn: Angen 50,000

Cofiwch Dryweryn
Slogan enwog: Cofiwch Dryweryn

Bydd apêl yn cael ei lansio er mwyn diogelu slogan sy'n cyfeirio at foddi pentre Capel Celyn 40 mlynedd yn ôl er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Cafodd y slogan enwog "Cofiwch Dryweryn" ei sgrifennu yn fuan wedi i'r pentre bach ger Y Bala gael ei foddi yn 1965.

Mae treigl amser wedi amharu ar y wal yn Llanrhystud ger Aberystwyth.

Bu'n rhaid ailbeintio'r slogan ym mis Mai 2008 ar ôl i rywun ei newid i ddarllen "Anghofiwch Dryweryn".

Mae Cadw eisoes wedi dweud y byddan nhw'n cyfrannu £30,000 tuag at yr apêl ond mae angen £50,000 arall.

Bydd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn helpu lansio apêl ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala ddydd Llun.

Cyngor Cymuned Llanrhystud sydd tu cefn i'r prosiect i ddiogelu'r wal.

Bydd Rowland Rees-Evans cynghorydd sir a chymuned yn lansio'r apêl.

"Mae wal Tryweryn yn adnabyddus yn y pentre ac rydym yn gwybod fod 'na gefnogaeth led led Cymru i'w ddiogelu.

"Mae e'n arwyddocâd cenedlaethol o safbwynt gwleidyddiaeth gyfoes Cymru.

"Does gan y cyngor cymuned ddim yr adnoddau i atgyweirio nag i sicrhau diogelwch y wal - rhywbeth sy'n angenrheidiol er mwyn cadw'r wal ar gyfer cenhedloedd y dyfodol."

Dywed trefnwyr yr apêl fod angen codi £80,000 er mwyn prynu'r wal a diogelu ei chyflwr.



HEFYD
Tryweryn: 'Dim angen boddi'r cwm'
09 Maw 06 |  Newyddion
Tryweryn: O blaid ymddiheuriad
20 Hyd 05 |  Newyddion
Tryweryn: Geiriad ymddiheuriad
12 Hyd 05 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific