British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 2 Awst 2009, 16:31 GMT 17:31 UK
Trefnwyr yn fodlon ar niferoedd

Plant yn chwarae ar y maes
Mae angen difyru plant ar y Maes

Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi dweud eu bod yn fodlon ar y nifer sy wedi bod i'r Maes ar ddiwrnodau agoriadol y Brifwyl yn Y Bala.

Roedd 18,216 o ymwelwyr ar y Maes ddydd Sadwrn, ffigwr sy'n uwch na'r blynyddoedd diwethaf.

Bu cyngerdd agoriadol Maes B hefyd yn llwyddiant.

Daeth dros 1,500 i weld Brigyn, Elin Fflur, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Bryn Fôn a'r Band.

Dywedodd y trefnwyr y dylai dydd Sul ar y Maes ddatblygu'n ddiwrnod i'r teulu.

Ystadegau dydd Sadwrn cyntaf
Meirion: 18,216
Caerdydd: 17,681
Sir y Fflint: 16,710

"Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod llwyddiannus iawn yn Y Bala," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

"Daeth pobl i'n gweld yn eu miloedd ... roedd 'na gystadlu brwdfrydig a rhedodd y system drafnidiaeth yn hwylus ac yn hawdd.

Apêl at deuluoedd

"Cadwodd y glaw i ffwrdd ac mae'r mwd wedi cilio'n arbennig o dda erbyn hyn.

"Unwaith eto dydd Sul, mae bwrlwm ar y Maes, ac mae niferoedd ymwelwyr yn argoeli i fod yn dda.

"Mae dydd Sul yn datblygu i fod yn ddiwrnod i'r teulu yn yr Eisteddfod a braf yw gweld cynifer o deuluoedd yn crwydro'r Maes."

Llyfryn gwybodaeth a sticeri i blant
Mae'r llyfryn yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau i blant

"Mae teuluoedd yn dod yma ar gyfer y pasiant gan aelodau cylchoedd meithrin lleol a'r gobaith yw datblygu hyn," meddai Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae teuluoedd cyfan yn crwydro'r Maes ac rydym eisiau ehangu a datblygu hynny dros y blynyddoedd nesaf."

Roedd llyfryn arbennig yn rhoi gwybodaeth i blant ifanc am yr Eisteddfod a llyfryn yn cyfeirio at weithgareddau i blant ar y Maes.

"Cafodd y llyfryn gwybodaeth ei ddosbarth yn ysgolion cynradd dalgylch yr Eisteddfod ac rydyn ni eisoes wedi paratoi un ar gyfer yr Eisteddfod nesaf ym Mlaenau Gwent ...," ychwanegodd.

Dywedodd eu bod yn argymell stondinwyr i gynnig atyniadau i blant.

Ond eleni does 'na ddim maes chwarae ar y Maes oherwydd yr angen i arbed arian.

Ystadegau dydd Sul
Meirion: 15,292
Caerdydd: 13,072
Sir y Fflint: 13,848

Wedi i ystadegau ymwelwyr dydd Sul gael eu cyhoeddi, 15,292, dros ddwy fil yn fwy na'r llynedd, dywedodd Mr Roberts fod y diwrnod yn llwyddiannus.

"Mae bwrlwm wedi bod ar y Maes drwy gydol y dydd, gyda chystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth.

"Braf hefyd oedd croesawu plant y sioe feithrin i'r llwyfan, ac yn ddi-os mae cynnal y sioe yn help mawr i ddenu teuluoedd i'r Maes ar ddydd Sul, ac yn dangos bod digonedd i deuluoedd ei wneud yn yr Eisteddfod, a'i fod yn ddiwrnod allan arbennig o dda i'r teulu cyfan."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific