British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Awst 2009, 14:04 GMT 15:04 UK
Cael blas ar straeon byrion

Te yn y Grug
Cymysgedd arbennig: Grug yn y Te

Os yw rhywun eisiau torri syched ar Faes yr Eisteddfod, mae 'na de gwahanol ar gael yn un o'r stondinau.

Yn lle cael Te yn y Grug mae modd cael Grug yn y Te.

A'r rheswm yw dathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi cyfrol straeon byrion Kate Roberts, Te yn y Grug.

Mae'r gyfrol am helyntion Begw, merch chwarelwr sy'n cael ei magu mewn tyddyn ar lethrau mynyddoedd Arfon ar ddechrau'r 19fed Ganrif.

"Un o gyfrolau enwoca Kate Roberts yw hi ...," meddai Bethan Jones Parry, rheolwraig Canolfan Treftadaeth Kate Roberts.

"Felly roeddwn yn meddwl bod dathlu ar Faes y Steddfod yn syniad go dda."

Alex Probyn, perchennog cwmni Blends for Friends yng Nghaeredin, sy wedi paratoi'r te.

'Cyfuno'

"Mae o wedi cyfuno blodau'r grug, blodau camri, blodau leim, petalau rhosod a dail dant y llew," meddai Bethan.

Te Chwarelwr
Mae'r Te Chwarel yn un cryf

"Ac mae 'na de arall, te chwarel, cymysgedd o de mor agos ag y gallai o wneud i'r te yr oedd chwarelwyr yn ei yfed.

"Mae hwn yn de cryf, mae mor gry â 'dach chi isio fo fod."

Yn ystod yr wythnos mae'r ganolfan yn lansio cystadleuaeth gyda BBC Cymru, Prifysgol Bangor a'r Academi er mwyn denu mwy o bobl i ysgrifennu straeon byrion.

"Mae 'na sawl dosbarth a'r thema fydd cymuned neu gymdeithas, themâu oedd yn agos at galon Kate Roberts," meddai.

Fe fydd Grug yn y Te a'r Te Chwarel ar gael yn stondin Cae'r Gors yn yr Eisteddfod, yn y ganolfan ac mewn siopau eraill yng Ngwynedd.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific