British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 3 Awst 2009, 07:07 GMT 08:07 UK
Casglu barn am bwerau iaith

Alun Ffred Jones
Bydd y Gweinidog yn cymryd rhan mewn cymhorthfa ar y Maes

Bydd un o weinidogion Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal cymhorthfa ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun mewn ymdrech i bwyso a mesur barn pobl ynglŷn â'r hyn sydd ei angen i ddiogelu dyfodol yr iaith.

A thrwy'r wythnos yn Y Bala bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio casglu barn pobl ynglŷn â chreu deddfau newydd i gryfhau statws y Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio pwerau gan San Steffan er mwyn cyflwyno deddfwriaeth newydd ar yr iaith.

Ymhlith pethau eraill mae'r llywodraeth bresennol wedi ymrwymo i sefydlu comisiynydd iaith.

Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn rhan o'r gymhorthfa ddydd Llun sydd, yn ôl llefarydd, "yn gyfle anffurfiol i drafod strategaeth bresennol yr iaith, ac i bobl gael dweud eu dweud amdani".

Bydd cymorthfeydd eraill yn cael eu cynnal yn Stondin Llywodraeth y Cynulliad ddydd Mercher a dydd Gwener.

"Mae hwn yn adeg bwysig ar gyfer datblygiad yr iaith yn y dyfodol," meddai Mr Jones.

"Mae'n hanfodol ein bod yn trafod y camau sydd angen eu cymryd gan y Llywodraeth a'r gymuned ehangach er mwyn datblygu strategaeth effeithiol."

Bydd yr ymwelwyr â stondin Llywodraeth y Cynulliad yn cael eu gwahodd i lenwi arolwg byr ar gerdyn post.

Dydd Mawrth am 2pm ym Mhabell y Cymdeithasau, bydd sesiwn holi ac ateb awr o hyd.

Ymhlith y gwesteion ar y panel fydd yn ymuno â'r Gweinidog Treftadaeth, bydd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, a Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Dylan Iorwerth, Golygydd a Chyfarwyddwr Golwg, fydd yn cadeirio'r sesiwn.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific