Mae'r pwyllgor yn honni fod y broses grantiau yn rhy gymhleth
|
Mae ysgolion a cholegau yn colli cyfleoedd i gael miloedd o bunnoedd oherwydd dryswch ynghylch sut i wneud cais am grantiau, yn ôl pwyllgor o aelodau'r cynulliad. Dywed Pwyllgor Cyllid y Cynulliad fod gormod o fân reolau a biwrocratiaeth yn arafu'r broses. Maen nhw am weld y llywodraeth yn cyhoeddi rhestr o'r holl grantiau "gan roi gwybodaeth glir am faint o arian sydd ar gael a sut i wneud cais amdano" Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn croesawu penderfyniad y pwyllgor i adolygu'r gyfundrefn ac y byddant yn ymateb i'r sylwadau yn ddiweddarach. 'Cwbl anaddas' Mae'r adroddiad ar grantiau addysg penodol yn beirniadu Llywodraeth Cynulliad Cymru am system sy'n "rhy gymhleth a biwrocrataidd o'r hanner, a honno'n gwbl anaddas ar gyfer y symiau o arian dan sylw." Yn ôl Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor, mae'r aelodau yn derbyn "cwynion di-ben-draw gan ysgolion a cholegau." "Ceir cwynion am bob agwedd ar y grantiau hynny - o brinder gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael, i'r gwaith papur sy'n rhaid ei lenwi er mwyn gwneud cais amdanynt." Dywedodd hefyd fod y pwyllgor wedi ei 'syfrdanu' gan ba mor anodd yw'r dasg o lunio rhestr o'r holl grantiau sydd ar gael. Beirniadodd y Pwyllgor y system archwilio sy'n rhaid i sefydliadau ei dilyn er mwyn cyfiawnhau derbyn grantiau cymharol fychain. Mae'r argymhellion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan y Pwyllgor Cyllid yn cynnwys y canlynol: • Dylai'r Llywodraeth gyhoeddi rhestr o'r holl grantiau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer ysgolion a cholegau. • Rhoi gwybodaeth glir am faint o arian sydd ar gael a sut i wneud cais amdano. • Dylai awdurdodau lleol gyhoeddi rhestr o'r holl grantiau a dderbyniwyd bob blwyddyn a'r symiau a roddwyd i bob ysgol a choleg. Dylid cyhoeddi hefyd fanylion unrhyw arian a gadwyd at ddibenion gweinyddol. • Dylid sefydlu cynllun 'grantiau bach' er mwyn cyflymu'r broses o gael arian ar gyfer prosiectau cymharol fychain. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Rydym yn croesawu penderfyniad y pwyllgor i ymchwilio i'r maes pwysig hwn. "Rydym newydd dderbyn yr adroddiad ac fe fyddwn yn ymateb i'w gynnwys maes o law."
|