British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009, 09:39 GMT 10:39 UK
Eisteddfod 'i gynulleidfa fwy'

Arfon Haines Davies
Arfon: Yn edrych ymlaen i'r profiad newydd

Am y tro cyntaf erioed mae modd i bobl drwy'r byd gael cyfle i fwynhau'r arlwy o'r Brifwyl wrth i BBC Cymru ddarlledu'r digwyddiadau yn fyw ar y we.

Fe ddechreuodd Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau fore Sadwrn.

Ar y we hefyd am y tro cyntaf fe fydd 'na opsiwn sylwebaeth Saesneg.

Arfon Haines Davies a Sara Edwards fydd yn sylwebu'n fyw, yn cynnig gwybodaeth gefndirol am y cystadlaethau a'r cystadleuwyr ar gyfer y di-Gymraeg.

Yn y gorffennol, darllediad byw o'r pafiliwn oedd wedi ei gynnig ar y wefan - a hynny i bobl ym Mhrydain. Nawr mae'r darllediad i gynulleidfa fyd eang.

'Dramatig'

"Mae'r Eisteddfod yn bwysig i'r gymuned Gymraeg, ac fe fydd yn wych cael dangos yr Ŵyl i'r rhai sydd ddim yn medru'r iaith, yng Nghymru a thu hwnt," meddai Arfon Haines Davies.

"Mae'r prif seremonïau yn ddramatig, ac mae'r Brifwyl yn aduniad blynyddol ar gyfer y diwylliant Cymraeg wrth i ni ddathlu'n beirdd, cantorion a pherfformwyr.

"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda Sara, a'r her o sylwebu'n fyw ar ddigwyddiadau yn y Pafiliwn, er, rhaid cyfaddef, fod meddwl am y profiad newydd wedi rhoi tipyn o nosweithiau digwsg i mi."

Dywedodd Keith Jones, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru, fod hwn yn ddatblygiad cyffrous i'r BBC.

"Rydym yn ymateb i ofynion ein cynulleidfa sy'n newid o hyd.

"Mae'n rhoi pleser mawr i ni ddarlledu o'r Eisteddfod ar blatfform rhyngwladol, ac edrychwn ymlaen yn fawr i glywed gan wylwyr ar draws y byd."

I wylio'r cystadlaethau ewch i bbc.co.uk/eisteddfod.

Ar y wefan mae 'na wybodaeth lawn am beth sy'n digwydd ar y Maes, y canlyniadau diweddaraf, rhagolygon tywydd, manylion teithio, a chymorth i ddysgwyr.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific