British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009, 10:31 GMT 11:31 UK
'Balchder' wrth groesawu'r brifwyl

Canolfan Groeso
Mae'r Eisteddfodwyr yn cyrraedd yr Eisteddfod

Mae Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009 wedi cychwyn.

Yn y seremoni agoriadol nos Wener fe wnaeth Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Elfyn Llwyd, nodi mai gorchwyl pleserus a braint oedd cael croesawu pobl a'r brifwyl i'r Bala.

Dywedodd bod yr Eisteddfod wedi ymweld ddwywaith o'r blaen a'r Bala a Stad y Rhiwlas ac roedd yn ddiolchgar iawn am gydweithrediad teulu'r Rhiwlas.

Mae'r gronfa leol wedi codi £90,000 yn fwy na'r targed a osdwyd o £200,000.

Arwydd Croeso Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau
Croeso amlieithog i'r brifwyl eleni

"Mae fy niolch diffuant a chywir iawn i bawb ym Meirionnydd am weithio yn ddiflino i greu chwip o Brifwyl.

"Mae pobl Meirion wedi codi i'r sialens mewn modd anhygoel.

"Fe fydd 'na groeso a brwdfrydedd heintus a gobeithiaf y byddwn yn cael gŵyl yr un mor gofiadwy â'r un yn 1967 a 1997."

Wrth dderbyn croeso Elfyn Llwyd fe wnaeth Dafydd Whittall, Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, ddiolch iddo a hefyd i Selwyn Iolen, y dirprwy Archdderwydd a fydd yn cymryd yr awenau yn seremonïau'r Orsedd oherwydd gwaeledd Dic Jones a bod y brifwyl yn cofio'n gynnes at yr Archdderwydd.

Balchder

Dywedodd bod 'na gryn edrych ymlaen at yr amrywiaeth sy'n creu'r Eisteddfod.

"Rydym yn cynnal un o wyliau celfyddydol mwya Ewrop a hynny mewn iaith leiafrifol," meddai.

Elfyn Llwyd yn croesawu pobl gyda Prydwen Elfed Owens, Cadeirydd Cyngor yr Eosteddfod; Dafydd Whittall, Llywydd Llys yr Eisteddfod ac Arweinydd Cyngor Gwynedd Anne Lloyd-Jones
Elfyn Llwyd yn croesawu pobl i Feirion

"Mae trigolion Meirion wedi hen basio'r nod ariannol ac maen nhw wedi bod yn hael iawn mewn ardal wasgaredig a phoblogaeth fach.

"Mae'n gamp fawr, ac fe ddylai pobl Meirion fod yn falch iawn."

Fe ddywedodd ei fod yn gobeithio y bydd pobl yn y mŵd yn hytrach nag yn y mwd.

"Gobeithio y bydd yr ymwelwyr traddodiadol yn heidio yma ond hefyd y bydd y brifwyl yn denu pobl newydd."

Ychwanegodd nad oes 'na unrhyw le mwy delfrydol i gynnal y brifwyl nag yn Y Bala gan mai ystyr Bala yw adwy lle mae llyn yn tarddu ohoni.

"Y llyn yw'r Eisteddfod a gobeithio y bydd yn adwy i bob rhan o Gymru."



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific