British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009, 05:49 GMT 06:49 UK
Mwy o dwf ar ôl geni Cyw

'Cyw' a'i ffrindiau
Cafodd gwasanaeth ar gyfer plant oedran meithrin ei lansio'r llynedd

Mae S4C yn ehangu'r gwasanaeth ar gyfer plant hŷn.

O Ebrill 2010 ymlaen y bwriad yw darlledu dwy awr y dydd o ddydd Llun i Ddydd Gwener ar gyfer plant rhwng saith oed a'u harddegau cynnar.

Ym Mehefin y llynedd fe wnaeth y sianel lansio gwasanaeth Cyw ar gyfer plant oedran meithrin.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei ddarlledu rhwng 4.00pm a 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydag oriau ychwanegol ar y penwythnos, ac ar gael ar y we.

Dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, fod y datblygiad yn "gyffrous iawn".

"Mae cyflwyno plant yn gynnar i S4C yn annog teyrngarwch i'r sianel ac i'r Gymraeg, ac mae'r cam diweddaraf hwn yn adlewyrchu cryfder S4C yn y maes."

Cwmni Boomerang+ sydd wedi ennill y cytundeb i ddarparu'r gwasanaeth.

"Mae gan y cwmni brofiad helaeth ym maes rhaglenni plant ac ar hyd y blynyddoedd ry'n ni wedi cynhyrchu rhaglenni poblogaidd i S4C," meddai Huw Eurig Davies, prif weithredwr Grŵp Boomerang.

"Nawr ry'n ni'n edrych ymlaen at yr her newydd fydd yn cychwyn ymhen ychydig fisoedd."

Bydd y cwmni yn gyfrifol am ddarparu o leiaf 156 awr o raglenni gwreiddiol y flwyddyn yn ogystal â'r dolenni rhwng y rhaglenni.



HEFYD
Cyw yn cael ei eni ar S4C
23 Meh 08 |  Newyddion
Darlledu: 'Angen cystadleuaeth'
21 Ion 09 |  Newyddion
S4C: Her yr oes ddigidol
15 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific