British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Gorffennaf 2009, 15:48 GMT 16:48 UK
Dwy goron ar y Maes

Gweddillion o'r Oes Haearn
Cafodd y gweddillion eu canfod mewn cae yng Ngherrigydrudion

Bydd dwy goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala eleni - un a ysbrydolwyd gan dirwedd ardal y Bala a'r llall gan ddarnau o'r Oes Haearn a ddarganfuwyd yn yr ardal yn y 1920au.

Yn ogystal â'r goron farddol, bydd Coron Cerrigydrudion newydd, sy'n seiliedig ar weddillion o'r Oes Haearn, yn cael ei harddangos ym mhafiliwn cyngor y celfyddydau.

Tomi Jones, dyn lleol, ddaeth o hyd i'r gweddillion 2,400 oed yng Ngherrigydrudion yn 1924.

Roedd Mr Jones yn trwsio wal mewn cae yn Nhŷ Tan y Foel pan ddaeth o hyd i fedd wedi'i leinio â cherrig.

Yn y bedd roedd cadwyn a'r gweddillion eraill.

Model o Goron Cerrigydrudion
Bydd model o'r goron i'w gweld ar Faes yr Eisteddfod

Mae arbenigwyr yn dweud fod y gweddillion yn rhannau o benwisg seremonïol sy'n dyddio nôl i tua 400 CC.

Amgueddfa Cymru sydd wedi creu model maint iawn o'r goron a hynny'n seiliedig ar y gweddillion.

"Rydyn ni'n falch iawn i gydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i ddod â'r goron newydd i Bala, sy'n agos at fan claddu'r Goron Oes Haearn gwreiddiol rhyw 2,400 o flynyddoedd yn ôl," meddai Kenneth Brassil, Swyddog Addysg Archeoleg, Amgueddfa Cymru.

"Hwn fyddai penwisg seremonïol y byddai'n hynafiaid yn Hiraethog wedi ei gwisgo mae'n debyg.

"Mae'n bosibl i Goron efydd Cerrigydrudion gael ei gwisgo gan fardd buddugol neu'i hetifeddu fel symbol o statws."

Mae'r model o'r goron fel rheol i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific