Mae Judith wedi dysgu'r Gymraeg i lefel uchel
|
Mae prifysgol yn gobeithio y bydd gwaith ymchwil gan fyfyrwraig o'r Almaen am gyfieithu yng Nghymru yn helpu busnesau lleol. Fe wnaeth Judith Kaufmann, sy'n dod o'r Almaen ac sydd wedi dysgu'r Gymraeg, ennill doethuriaeth am draethawd ymchwil ar gyfieithu ar y pryd a'r defnydd o'r Gymraeg yng Ngwynedd. Roedd y ddoethuriaeth mewn partneriaeth â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru o dan gynllun a ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor. Bwriad y cynllun yw galluogi cwmnïau bychain i gydweithio ar brosiectau ymchwil perthnasol i'w busnes, ac ar yr un pryd hyfforddi graddedigion mewn sgiliau ymchwil. 'Sail i drafodaethau' Dywedodd Athro Gerwyn Williams: "Dyma'n sicr draethawd ymchwil na ddylai fod yn hel llwch ar silffoedd llyfrgell, ond un a chanddo'r potensial gwirioneddol i ddylanwadu'n ymarferol ar faes cyfieithu a chynllunio a pholisi ieithyddol". Dywedodd Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: "Rydym yn llongyfarch Judith yn wresog ar ennill ei doethuriaeth. "Bydd ei hastudiaeth ar gyfraniad cyfieithu a chyfieithu ar y pryd at gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn sail i drafodaethau ynghylch swyddogaeth cyfieithu a hybu safonau cyfieithu proffesiynol."
|