British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Gorffennaf 2009, 11:55 GMT 12:55 UK
2,000 o swyddi i bobl ifanc

Chwilio am waith
Mae bron hanner y diwaith yng Nghymru o dan 25 oed

Mae 2,000 o swyddi cytundebau chwe mis ag isafswm cyflog yn cael eu creu yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc oherwydd cynllun Llywodraeth san Steffan.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Peter Hain fod £1 biliwn wedi ei neilltuo ar gyfer cynllun Cronfa Swyddi'r Dyfodol.

Yng Nghymru fe fydd 10 cynllun mewn ardaloedd diweithdra.

Mae Mr Hain wedi dweud bod y cynlluniau yn "real" ac yn golygu "swyddi ychwanegol".

Wrth fynd i gynllun ar Stad y Gurnos ym Merthyr Tudful ddydd Mercher cyhoeddodd Mr Hain y manylion.

"Fe fydd mwy na 2,000 o bobl ifanc ar eu hennill ...," meddai.

Dywedodd y byddai'r swyddi'n cynnwys rheoli amgylcheddol, lletygarwch ac ailgylchu.

CYNLLUNIAU
Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Merthyr Tudful
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Benfro
Canolfan Hyfforddiant Ceredigion
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Interlink
Cyngor Sir Caerdydd
Cronfa Swyddi Dyfodol, Casnewydd
Sefydliad y Deillion
Groundwork/NHF

"Mae'r rhain yn swyddi real na fyddai'n bod heb y gronfa.

"Fe fyddan nhw'n swyddi am o leiaf chwe mis ag isafswm cyflog am o leiaf 25 awr o waith yr wythnos.

"Mae'r math yma o swyddi yn allweddol ... rydyn ni'n gwybod os yw pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yn colli cyfle i weithio, mae'r effaith yn fawr."

Yr Adran Waith a Phensiynau fydd yn rheoli'r cynllun fydd yn creu 100,000 o swyddi yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.

Mae Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi croesawu'r newyddion.

Fe fydd y cynllun rhwng mis Hydref 2009 a mis Mawrth 2010.

"Dwi'n llongyfarch yr awdurdodau lleol a mudiadau sydd wedi llwyddo i dderbyn arian o'r gronfa.

"Fe fydd y buddsoddiad yn creu cannoedd o swyddi ar gyfer y rhai sy'n ddi-waith ers cyfnod hir.

"Hwn yw'r cam cynta mewn cyfres fydd yn lledu i Gymru gyfan."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific