Dechreuodd Jason ei daith i Lyn Ebwy o'r Bala fore Gwener
Toc wedi naw fore Gwener fe ddechreuodd Jason Owen daith 130 milltir o Faes yr Eisteddfod yn Y Bala. Nod cynghorydd annibynnol Georgetown ar Gyngor Sir Blaenau Gwent yw beicio o'r Bala i Lyn Ebwy lle bydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesa. Mae'n codi arian ar gyfer y Brifwyl ac elusen arbennig ac yn gobeithio cyrraedd Glyn Ebwy erbyn 3pm ddydd Sadwrn ar ôl aros dros nos yn Llanfair-ym-Muallt. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at y golygfeydd arbennig ar hyd y daith. Bydd yn mynd i Lanfair-ym-Muallt ar hyd yr A470 cyn teithio i Gurghywel a thros Mynydd Llangynidr i Lyn Ebwy. "Dwi'n falch taw'r ffordd hon dwi'n gwneud y daith ... fe fyddai wedi bod yn fwy anodd y ffordd arall," meddai cyn dechrau. Fe sydd â chyfrifoldeb am hamdden a diwylliant ar y cyngor. "Mae'r daith yn cyfuno'r dda," meddai. Cefnogaeth Mae'n codi arian ar gyfer yr Eisteddfod ac elusen Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig. "Dwi ddim yn siwr iawn faint o arian sydd wedi ei gasglu ... dyw nifer fawr o ffurflenni noddi ddim wedi dod yn ôl ond dwi'n siwr y bydd 'na £1,000. "Dwi'n gwneud y rhan gynta ar ben 'yn hunan ond dydd Sadwrn mae 'na lywodraethwyr o Ysgol Gynradd Georgetown yn Nhredegar yn dod i gefnogi.
Jo Thomas o'r cyngor yn dymuno pob lwc i Jason
|
"Fe fydd y saith awr ddydd Gwener yn hir ac unig." Roedd wedi arfer beicio "flynyddoedd mawr yn ôl," meddai, ac wedi teithio o'r Rhyl i Lyn Ebwy 14 blynedd yn ôl. Er ei fod wedi ymarfer y tro hwn dywedodd nad oedd y dasg yn hawdd. "Mae'r Eisteddfod y flwyddyn nesa yn mynd i gynnig cyfleon arbennig. "Dwi wedi cael cyfle i fynd o amgylch y Maes yn Y Bala ... gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud yr un peth y flwyddyn nesa." Roedd y cyngor, meddai, wedi creu cysylltiadau rhwng ysgolion y sir ag ysgolion ardal Y Bala fydd yn mynd i'r Eisteddfod y flwyddyn nesaf. "Rydym hefyd wedi creu cysylltiadau ag ysgolion yn ardal Wrecsam lle bydd yr Eisteddfod ar ein hôl ni."
|