British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Awst 2009, 12:58 GMT 13:58 UK
'Oes o wasanaeth': Medal er clod

Haf Morris
Derbyniodd Haf Morris y fedal er clod

Un o Feirionnydd yn wreiddiol sydd wedi derbyn Medal Syr T H Parry Williams er clod eleni.

Mae Haf Morris yn enw cyfarwydd ym myd Cerdd Dant ac mae'n derbyn y fedal wrth i'r Gymdeithas Gerdd Dant ddathlu ei bod yn 75 oed.

Ac mae hi wedi hyfforddi partïon, corau ac unigolion yn ogystal â bod yn osodwr cerdd dant.

Ers blynyddoedd mae hi'n feirniad uchel ei pharch mewn eisteddfodau bach a mawr.

"Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi cymaint o ffydd yndda i i dderbyn y fedal yma.

"Rhaid dweud mai fy magwraeth yn Nyffryn Dyfi oedd yn ddylanwad arbennig."

Y Pethe

Dywedodd fod gan ei rhieni, yn enwedig ei mam, ddiddordeb yn y Pethe.

"Y teimlad bod eisiau gwneud rhywbeth o ran diwylliant Cymraeg oedd y cymhelliad dwi'n siŵr.

"Mae ardal Dyffryn Dyfi yn ddwfn yndda i ... yno mae'r gwreiddiau er fy mod yn byw bellach yn Sir Fôn."

Roedd Dr Aled Lloyd Davies wedi llunio cerdd i gyfarch Haf Morris ac fe ganodd y gwaith yn ystod y seremoni.

Cafodd Haf ei magu yn Aberangell yn ferch i Huw Morris, prifathro'r ysgol gynradd a'i wraig Laura.

Ar ôl cael ei haddysgu yno ac yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio cerdd cyn cael cymhwyster dysgu.

Bu'n dysgu yn Llangefni cyn symud i Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch lle bu'n athrawes gerdd am 28 mlynedd.

Helpu

Ers y dyddiau cynnar un o'i phrif amcanion oedd helpu plant a phobl ifanc.

"Rhaid i ni barchu'r hen draddoddiad," meddai.

"Dyna beth sy'n bwysig, sicrhau bod ein treftadaeth werthfawr yn parhau."

Fe sefydlodd Adran ac Aelwyd yr Urdd yn Aberangell.

Dros y blynyddoedd mae hi wedi gweithio'n wirfoddol wrth gyfrannu a chyfoethogi diwylliant ardaloedd fel Trawsfynydd, Llangefni ac Amlwch.

Mae wedi cefnogi Cymdeithas Cerdd Dant Cymru a hi sy'n gyfrifol am y cwrs preswyl blynyddol.

Mae ei nodiadau yng nghyfrol Allwedd y Tannau yn "werthfawr wrth roi arweiniad a chadw safonau'r grefft".



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific