British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Awst 2009, 13:02 GMT 14:02 UK
Ail fedal ddrama o'r bron i Dyfed

Dyfed a Marnie Edwards
Dyfed Edwards yn cael ei longyfarch gan ei wraig Marnie

Am yr ail dro'n olynol mae Dyfed Edwards wedi ennill Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dyfed enillodd yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd y llynedd.

Mae'r dyn o Langefni, Ynys Môn, yn newyddiadurwr a gychwynnodd gyda Phapurau'r Herald.

Bu'n gweithio wedyn i bapurau dyddiol yn Lerpwl, Newcastle a Llundain.

Erbyn hyn mae'n gweithio ar ei liwt ei hun o'i gartre yng Nghaint.

Tân mewn Drain yw teitl y ddrama fuddugol yng nghystadleuaeth y Ddrama Hir dros 50 munud o hyd.

'Sawl lefel'

Beirniaid y gystadleuaeth ac un y ddrama fer agored oedd Gwion Lynch a Dyfan Roberts ddywedodd fod y ddrama'n "gweithio ar sawl lefel".

"Ar un lefel mae'n stori fer gyfoes yn ymdrin â sefyllfaoedd heddiw a'r cymeriadau'n newid drwy gydol y ddrama wrth i'r gynulleidfa fod yn dyst i'r broses.

"Rydan ni'n gwylio rhywbeth byw.

"Ar lefel arall mae'r gynulleidfa'n darganfod themâu oesol."

Llwyfan deg i ddramodwyr?

Dywedodd y beirniaid fod yna rai wendidau.

"... mae angen i'r dramodydd fynd o dan groen ei gymeriadau fwyfwy.

"Eto mae hi'n ddrama sy'n codi i dir uwch na phawb arall ac mae gan yr awdur barch at eiriau ... mae'r ddrama'n canu fel darn o farddoniaeth."

'Wythnos i'w chofio'

Dywedodd Dyfed: "Roedd clywed fy mod wedi ennill y Fedal eleni eto yn deimlad arbennig.

"Roedd y profiad a gefais y llynedd yn ardderchog ac mae'r ffaith fy mod yn cael profiad tebyg yn Y Bala yn gyffrous iawn.

"Mae'r Eisteddfod eleni wedi bod yn wythnos i'w chofio, cael y fedal a chael fy urddo i'r Orsedd."

Roedd y fedal eleni er cof am Urien Wiliam, yn rhoddedig gan ei wraig Eiryth a'r plant Hywel, Steffan a Sioned.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific