British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009, 07:05 GMT 08:05 UK
Y Bala yn barod am y Brifwyl

Canol tref Y Bala
Mae'r gronfa leol wedi codi 290,000

Bydd seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn cael ei chynnal ddydd Gwener.

Mae disgwyl 160,000 i ymweld â'r Maes yn ystod yr wythnos.

Fe fydd y seremoni cyn y cyngerdd agoriadol - Brethyn Cartref - nos Wener.

Eleni mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Stad y Rhiwlas ar gyrion tref y Bala.

Ers dros ddwy flynedd mae'r trigolion lleol wedi bod yn gweithio'n galed i baratoi ar gyfer yr wythnos.

Bydd yr Eisteddfod yn costio £3.3 miliwn gyda'r gronfa leol wedi codi £290,000, £90,00 yn fwy na'u targed.

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn yr un lleoliad ag y cafodd Eisteddfod Genedlaethol Meirion 1997 ei chynnal.

'Gwaith aruthrol'

Dydi'r ŵyl ddim wedi bod yn yr ardal ers hynny ac mae 'na gryn edrych ymlaen.

"Mewn ardal fechan o ran poblogaeth rydan ni wedi gwneud yn wyrthiol dwi'n meddwl," meddai Elfyn Llwyd, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod a'r aelod seneddol lleol.

"Mewn tua 18 mis rydan ni wedi llwyddo i godi tua £12 y pen, efallai ychydig yn fwy, ar gyfer pawb sy'n byw ym Meirionnydd.

"Mae 'na waith aruthrol wedi ei wneud o dan yr wyneb.

"Mae trigolion yr ardal yn edrych ymlaen at wahodd pobl i'r ardal ac mae 'na frwdfrydedd heintus yma.

"Dan ni wedi cael y gefnogaeth fwyaf gan swyddogion yr Eisteddfod ond dwi'n gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i roi sglein a blas Meirionnydd ar y brifwyl."

CYFARWYDDIADAU I'R MAES
O gyfeiriad Trawsfynydd: Dilyn yr A4212 i Frongoch; troi i'r chwith i'r B4501. Yna troi i'r dde i ffordd Rhiwlas (ar y goleuadau). Mae hon yn unffordd i mewn cyn 3.00pm, ac yn unffordd allan ar ôl 3.00pm. Os byddwch yn cyrraedd ar ôl 3.00pm, dilynwch y ffordd arferol i'r Bala (A4212)
O gyfeiriad Dolgellau: Dilyn yr A494 drwy'r Bala a throi i'r chwith ar ôl y bont
O gyfeiriad Corwen: Dilyn yr A494 tuag at y Bala a throi i'r dde yn Llanfor
O gyfeiriad Llangynog: Dilyn y B4391; troi i'r dde i'r B4402 a throi i'r chwith ar yr A494. Troi i'r dde yn Llanfor
O gyfeiriad Llandderfel: Dilyn y B4402; troi i'r dde i'r B4401 a throi i'r chwith ar yr A494. Troi i'r dde yn Llanfor

Mae'r maes ar ffordd yr A494 rhwng Y Bala a Chorwen ger pentref Llanfor.

Fel yn 1997 mae'r maes parcio un ochr i'r ffordd a'r prif faes, Maes B a Maes C yr ochr arall.

Ymhlith y prif ddigwyddiadau ar y Maes fe fydd y prif seremonïau, y Coroni, y Cadeirio, y Fedal Ryddiaith, Tlws Y Cerddor a Gwobr Goffa Daniel Owen.

Yn cymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol y bydd Côr Cerdd Dant Meibion Unedig, Côr Godre'r Aran, Y Glerorfa, Mark Evans a Tudur Phillips.

Mae'r cyngerdd hefyd yn nodi bod Cymdeithas Gerdd Dant Cymru yn 75 oed eleni ar ôl cael ei sefydlu yn nhref Y Bala ar Dachwedd 10 1934.

I greu'r côr unedig mae aelodau o gorau meibion Prysor, Llangwm, Dyfi, Godre'r Aran a Chôr y Cewri wedi dod at ei gilydd.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific