British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf 2009, 10:21 GMT 11:21 UK
Gwybodaeth ar ffurf sain

Pafiliwn yr Eisteddfod
Fe fydd yr Eisteddod ger Y Bala yn dechrau ddydd Sadwrn Awst 1

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhyddhau gwybodaeth am y brifwyl ar gryno ddisg ar ffurf sain i bobl ddall neu rannol ddall.

Dywedodd yr Eisteddfod eu bod eisiau i bawb gael y cyfle i gael gwybod am yr hyn sy'n mynd ymlaen yno a'u bod wedi bod yn cydweithio gyda mudiadau i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i gymaint o bobl â phosib.

Mae RNIB Cymru yn falch o weld y cryno ddisg gan ychwanegu bod gan bawb "hawl sylfaenol i fynychu a mwynhau'r Eisteddfod".

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Eisteddfod wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod mor hygyrch â phosibl ar gyfer ymwelwyr gydag anableddau.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, eu bod wedi cydweithio gydag RNIB Cymru i gynhyrchu'r cryno ddisg.

Rhan bwysig

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yn cael gwybod am yr hyn fydd yn digwydd ar Faes yr Eisteddfod.

" Mae copïau ar gael o swyddfa'r Eisteddfod, felly os ydych chi'n adnabod unrhyw un sydd am wybod mwy am ein gweithgareddau ni yn ystod yr wythnos, cysylltwch i gael copi.

"Rydym ni fel sefydliad yn mynd ati i wneud gwybodaeth am yr Eisteddfod mor hygyrch ag y gallwn, ac rydym yn gwerthfawrogi'r berthynas sydd gennym gydag RNIB Cymru i sicrhau bod y wybodaeth yma ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno ymweld â'r Eisteddfod."

'Mwynhau'n llawn'

Dywedodd Emma Tucker, rheolwraig gwasanaethau trawsgrifio a gwybodaeth hygyrch RNIB Cymru, bod yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mor bwysig o ran diwylliant Cymru.

"Mae'n hawl sylfaenol i bobl ddall ac â golwg rhannol gael y cyfle i'w mynychu a'i mwynhau'n llawn.

"Trwy gynhyrchu fersiwn sain o'r crynodebau, mae'r Eisteddfod yn rhoi i bobl â phroblemau golwg ddewis annibynnol o ran beth maen nhw eisiau gwneud yn ystod yr wythnos."

Dylai unrhyw un sydd yn dymuno derbyn gwybodaeth am yr Eisteddfod ar CD sain ffonio'r Eisteddfod ar 029 2074 1700.

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau ar Stad Rhiwlas ger Y Bala rhwng Awst 1-8.



EISTEDDFOD MEIRION A'R CYFFINIAU 09


GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific