British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Gorffennaf 2009, 12:05 GMT 13:05 UK
Ymgyrch: Anelu at leihau biliau

Person oedrannus
Gallai pobl oedrannus arbed arian drwy insiwleiddio'r cartre

Mae ymgyrch wedi dechrau sy'n annog pensiynwyr, teuluoedd ar incwm isel a phobl ag anableddau i geisio lleihau eu biliau ynni.

Can niwrnod cyn i'r gaeaf ddechrau mae 'na linell ffôn am ddim yn cynnig gwybodaeth am grantiau insiwleiddio a lleihau tariff cymdeithasol.

Y cyflenwyr ynni sy'n rhedeg yr ymgyrch y mae elusennau a mudiadau cartrefi yn ei chefnogi.

Honnir bod tlodi tanwydd mewn 320,000 o gartrefi yng Nghymru ac nad yw 80% o bobl Cymru yn gwybod am y wybodaeth ar gael.

Dywedodd Garry Felgate, prif weithredwr Cymdeithas Manwerthu Ynni: "Rhaid i bobl Cymru baratoi ar gyfer y tywydd oerach a threfnu gwaith insiwleiddio cyn y gaeaf.

'Gweithredu'

"Gallai nifer o bobl leihau eu costau ynni ... dim ond 100 diwrnod sydd 'na cyn y gaeaf ac mae'n bwysig gweithredu nawr.

"Mae neges Llinell Wybodaeth Gwresogi'r Cartref yn glir ... rydym yn annog unrhyw un sy'n poeni am eu costau tanwydd i gysylltu a defnyddio'r help sydd ar gael."

Ymhlith y mudiadau sy'n cefnogi'r llinell ffôn mae Age Concern Cymru, Llais Defnyddwyr Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru.

Dywedodd Rosalyn Williams o Age Concern Cymru fod galwad ffôn yn gwneud gwahaniaeth mawr.

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siwr bod yr holl bobl mewn oed yn cadw'n gynnes dros y gaeaf a bod cymaint o bobl yn gallu elwa."

Rhif ffôn y llinell ffôn yw 0800 336699, ar gael rhwng 9am a 8pm ddydd Llun tan ddydd Gwener a rhwng 10am a 2pm ddydd Sadwrn.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific