British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2009, 11:37 GMT 12:37 UK
O blaid codi ysgol 5.1m

Ysgol fach
Fe fydd gwaith codi'r ysgol yn dechrau ym mis Medi

Mae cyngor sir wedi cymeradwyo codi ysgol iau newydd fel rhan o gynllun i ehangu addysg Gymraeg yn ardal Llanelli.

Dywed y cyngor mai'r nod yw creu 340 o lefydd ar gyfer disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg yn y dref.

Mae'r cynllun yn cynnwys codi ysgol iau gwerth £5.1 miliwn yn Brynsierfel, Llwynhendy.

Bydd y gwaith yn dechrau ym Mis Medi a bydd lle i 210 o ddisgyblion ac uned feithrin.

Mae yna ysgol Gymraeg gynradd eisoes ar y safle.

Bydd llefydd ychwanegol i ddisgyblion Cymraeg hefyd yn cael eu creu yn ysgolion cynradd Dewi Sant a Ffwrnes.

Mae cynlluniau i godi ysgol newydd fyddai un ai yn ysgol cyfrwng Cymraeg, neu yn cynnwys ffrwd Gymraeg.

'Cynnydd sylweddol'

Dywed y cyngor fod yr arian yn dod o gynllun 10 mlynedd Sir Gaerfyrddin i ad-drefnu addysg.

Dechreuodd y cynllun, sy'n costio £180 miliwn, yn 2004 ac mae rhai rhieni wedi ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion bach.

Dywedodd aelod bwrdd gweithredol y cyngor sir, Gwynne Wooldridge, fod adroddiad yn dweud fod yna gynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanelli dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae swyddogion am gael canllawiau gan gynghorwyr ar yr opsiynau sy ar gael i ymdopi gydag unrhyw gynnydd pellach a allai ddigwydd."

.



HEFYD
Addysg Gymraeg: Dyblu gwariant
12 Mai 09 |  Newyddion
Ad-drefnu addysg: Cyhoeddi manylion
18 Hyd 04 |  Newyddion
Cronfa i ysgolion mewn peryg
17 Medi 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific