British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2009, 11:57 GMT 12:57 UK
Trydaneiddio rheilffordd?

Trn First Great Western yn Paddington, Llundain
Mae cael gwasanaeth rheilffordd trydanol o dde Cymru i Lundain yn 'flaenoriaeth'

Bydd y rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru'n cael ei thrydaneiddio, yn ôl adroddiadau.

Fe fydd cyhoeddiad efallai ddydd Iau.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd adroddiad Aelodau Seneddol Cymreig y dylai trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain fod yn "flaenoriaeth".

Yn ôl papur newydd y Guardian, mae Llywodraeth San Steffan yn "gorffen cynlluniau" i drydaneiddio prif lein y Great Western.

Dywedodd y Prif Weinidog Gordon Brown y byddai'n cyhoeddi "buddsoddiad mawr" ddydd Iau ar gyfer trydaneiddio dwy lein.

"Mae hwn yn gyfnod heriol ... rydyn ni'n cymryd penderfyniadau anodd ond dyma'r penderfyniadau cywir i'n gwneud ni'n gryfach ac i adeiladu Prydain well sy'n barod ar gyfer y dyfodol."

Mae disgwyl mai'r lein o Fanceinion i Lerpwl yw'r lein arall.

Carbon monocsid

Dywedodd stori'r papur newydd fod hon yn rhan o fwriad i leihau allyriadau carbon monocsid ac y byddai'r lein o orsaf Paddington i dde Cymru, gan gynnwys Rhydychen, Reading a Bryste, yn cael ei thrydaneiddio.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Cymreig, byddai hyn yn arwain at wasanaethau gwell a chyflymach i deithwyr.

Ymatebo yr Adran Drafnidiaeth i adroddiad y pwyllgor yw dweud eu bod wedi "cydweithio'n agos" â Llywodraeth y Cynulliad i "ystyried yn ofalus yr achos i drydaneiddio prif lein y Great Western rhwng Abertawe a Llundain".

Mae'r Guardian wedi honni y bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul rhan hyd at 2020 er mwyn "lleihau anghyfleustra ac oedi".

'Rhwystr mawr'

Ond dywedodd yr arbenigwr trafnidiaeth Christian Woolmar wrth y BBC: "Mae 'na sôn wedi bod am hyn am flynyddoedd lawer ac ni fydd yn digwydd dros nos.

"Mae 'na rwystr mawr rhwng Llundain a Chymru, Twnnel Hafren.

"Efallai na fydd lle i drydaneiddio yno heb dwrio ymhellach.

"Dwi'n 60 oed cyn hir a dwi'n amau a fydda i fyth yn teithio ar lein wedi ei thrydaneiddio o Lundain i Gaerdydd."



HEFYD
M4: Beirniadu penderfyniad
16 Gorff 09 |  Newyddion
Trafnidiaeth: 'Angen cydlynu'
17 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific