Y sefydliad: Ymchwil arloesol
|
Fe fydd gwyddonwyr yng Nghymru yn buddsoddi £25 miliwn mewn canolfan sy'n ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd. Dywedodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth y byddai'r arian yn codi safonau. Nod y sefydliad yw creu "canolfan ryngwladol ar gyfer diogelu bwyd, ynni a dŵr". Roedd y cyhoeddiad yn Y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Dywedodd y sefydliad y byddai'r arian oddi wrth yr Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol a Llywodraeth y Cynulliad. 'Arloesol' "Mae'n addas bod y prif fuddsoddiad yng Ngogerddan (ger Aberystwyth) wrth i ni ddathlu 90 mlynedd o waith ymchwil," meddai cyfarwyddwr y sefydliad, Dr Wayne Powell. "Mae ein gweledigaeth ni yr un peth, cynnal ymchwil o'r radd flaena er budd ffermio, yr amgylchedd a'r economi a chanolbwyntio ar fwyd, dŵr ac ynni. "Yn naturiol, mae ein meysydd ymchwil yn ehangach fel rhai arloeswyr 1919. "Rydyn ni'n ymateb yn wych i heriau'r dydd ac yn defnyddio'n arbenigedd ymchwil i wasanaethu Cymru a gwledydd eraill."
|