British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2009, 06:27 GMT 07:27 UK
£750,000 i undebau credyd

Pwrs arian
Fe fydd yr arian yn helpu pobl ar incwm isel

Fe fudd undebau credyd yn elwa o £750,000 o gronfa Ewrop mewn ymgais i roi mwy o gredyd fforddiadwy i bobl.

Caiff yr arian ei rannu rhwng 18 o undebau credyd ar draws Cymru.

Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Brian Gibbons, sy'n cyhoeddi'r strategaeth newydd yn Y Rhyl ddydd Mercher.

Mae undebau credyd yn cynorthwyo pobl sydd fel arfer ar incwm isel.

Dywedodd Dr Gibbons bod undeb credyd Arfordir Clwyd yn Y Rhyl yn derbyn £22,718 ychwanegol i gynnig gwasanaethau craidd a chyflogi rheolwr.

Bydd yr 17 undeb arall yn derbyn symiau amrywiol.

'Helpu miloedd'

"Yn yr hinsawdd economaidd yma, mae cyllid a gwaharddiad ariannol yn dal yn broblem ar draws Cymru," meddai Dr Gibbons.

"Fe fydd y strategaeth yma yn helpu miloedd drwy'r anawsterau.

"Rydym eisiau i bobl allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol a hynny gyda rhywfaint o sicrwydd a chael y wybodaeth gywir a'r sgiliau i beidio wynebu trafferthion ariannol a gwybod lle mae'r cymorth ar gael."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific