Mae 'na bryder na fydd 'na gystadleuaeth i'r BBC
|
Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wed dweud eu bod yn poeni m ddyfodol darlledu Saesneg yng Nghymru. Dywedodd aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig y gallai sefyllfa fodoli erbyn 2010 pan na fyddai cystadleuaeth. Dylai Llywodraeth Prydain, meddai'r adroddiad, "ystyried ar frys" y diffyg gwasanaeth i siaradwyr Saesneg yng Nghymru. Mae'r adroddiad wedi beirniadu S4C am beidio â chyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer gwasanaeth newyddion Saesneg. Daw'r adroddiad ar ôl pryderon am sefyllfa ariannol ITV. Os yw ITV yn rhoi'r gorau i ddarparu newyddion am Gymru yn Saesneg, y BBC fyddai'r unig ddarparwr newyddion o fewn blwyddyn, yn ôl yr adroddiad. 'Llwm' Dywedodd y pwyllgor eu bod yn poeni na fyddai 'na lais ar wahân i BBC Cymru ac y byddai hyn yn creu "gwagle" gwybodaeth. Fe fyddai ITV Cymru, meddai, yn cynhyrchu dim ond pedair awr o newyddion cenedlaethol yr wythnos yn 2009. Roewdd y dyfodol yn "llwm," meddai cadeirydd y pwyllgor, Dr Hywel Francis, oni bai bod 'na rywbeth brys yn cael ei wneud. "Nid yn unig y ddarpariaeth newyddion su'n wynebu dyfodol ansicr ... "Ble mae'r amrywiaeth gerddorol, drama a chomedi ar gyfer y gynulleidfa gartref? "Ac mae 'na bryder bod plant Cymru sy'n siarad Saesneg yn cael eu hamddifadu gan y darlledwyr Saesneg ac eithrio'r BBC. "Os yw adroddiad Prydain Ddigidol yn ateb y cwestiynau ehangach o ran diffyg dewis mewn gwasanaethau newyddion Prydeinig a 'rhanbarthol,' mae angen gweithredu yn syth i daclo anghenion y gynulleidfa Saesneg yng Nghymru." Mae'r adroddiad wedi dweud bod diffyg cystadlu a dewis wedi arwain at safon wael adrodd am straeon gwleidyddol yng Nghymru ac y gallai'r sefyllfa waethygu. 'Gwael' "Rydyn ni'n credu bod nifer sylweddol o'r darlledu gwleidyddol yng Nghymru, gan BBC ac ITV Cymru, o ansawdd gweddol wael," meddai'r adroddiad. Casgliad ymchwiliad byr yw'r adroddiad - roedd un sesiwn ar gyfer rhoi tystiolaeth lafar a naw tystiolaeth ysgrifenedig. Roedd yr adroddiad yn feirniadol am na na wnaeth S4C gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer newyddion Saesneg. "Allwn ni ddim derbyn sefyllfa pan mae cynigion mor bwysig yn cael eu cadw'n gudd. "Rydyn ni'n awgrymu'n gryf bod yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cael y cyhoeddiad yn llawn."
|