British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 22 Gorffennaf 2009, 18:46 GMT 19:46 UK
Ffatri: 'Gobaith am 15 mis'

Aliwminiwm Mn
Dim ond 80 o weithwyr fyddai ar l ar y safle petai'r cwmni'n gwrthod y cymorth

Mae rheolwyr cwmni Aliwminiwm Môn wedi cyflwyno "cynigion dros dro" i Lywodraeth San Steffan a allai gadw'r ffatri ar agor am 15 mis.

Fe gysylltodd y cwmni â Swyddfa Cymru ar ôl trafod am ddiwrnod a hanner.

Mae disgwyl iddyn nhw gynnal mwy o drafodaethau â gweinidogion yr wythnos nesaf.

Mae perchnogion y gwaith ger Caergybi wedi bod yn trafod pecyn cymorth bron £50 miliwn oddi wrth Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth y Cynulliad.

Yn Llundain bu'r bwrdd rheoli yn cyfarfod ar ôl trafod gyda gwleidyddion, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru, nos Lun.

Roedd Peter Hain wedi eu hannog i ail-ystyried y cynnig a allai achub cannoedd o swyddi.

Fe wnaeth Mr Hain groesawu'r datblygiad a allai ddiogelu swyddi.

"Mae'r bwrdd wedi ystyried y cynnig o ddifri," meddai.

"Dwi'n falch y bydd y trafodaethau yn parhau dros yr wythnos nesaf."

500

Mae bron i 500 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y gwaith.

Daw cyflenwad trydan rhad y cwmni, gan Atomfa'r Wylfa, i ben ym mis Medi.

Os na fydd gan y cwmni gyflenwad arall, fe fydd rhaid dirwyn y gwaith i ben.

Roedd y cwmni wedi rhybuddio y gallai bron 400 o swyddi gael eu colli, 250 yn orfodol a 140 yn wirfoddol.

Bwriad yr arian sy'n cael ei gynnig gan y llywodraethau yw pontio'r cyfnod rhwng diwedd y cytundeb gyda'r Wylfa a'r cyfnod pan fydd Aliwminiwm Môn yn codi gorsaf bŵer eu hunain.

Fe wnaeth Aliwminiwm Môn wrthod y cynnig yn gynharach yn y mis.

Petai'r gwaith yn cau ym mis Medi, 80 o weithwyr fydd yn dal i gael eu cyflogi er mwyn cynnal y safle.



HEFYD
Cwmni i ailystyried cynnig
20 Gorff 09 |  Newyddion
Cwmni: Cytuno ar y funud ola?
20 Gorff 09 |  Newyddion
Aliwminiwm: 250 i golli gwaith
16 Gorff 09 |  Newyddion
Alwminiwm: Pecyn cymorth 48m
01 Gorff 09 |  Newyddion
'Pryder am 500 o swyddi'
15 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific