British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Gorffennaf 2009, 11:18 GMT 12:18 UK
Myfyriwr yn cael ei estraddodi

Jonathon Hiles
Roedd Jonathan Hiles ar wyliau yng Nglwad Groeg pan fu farw

Mae myfyriwr o Lundain wedi cael ei estraddodi i Wlad Groeg mewn perthynas â marwolaeth llanc o Gaerdydd ar ôl i Dŷ'r Arglwyddi wrthod glywed ei apêl yn erbyn ei estraddodi.

Mae Andrew Symeou o Enfield yn wynebu achos o ddynladdiad ar ôl i Jonathan Hiles, 18 oed, farw ar ôl digwyddiad mewn clwb ar ynys Zakynthos yn 2007.

Hedfanodd o faes awyr Heathrow fore Iau.

Ym gynharach eleni collodd Mr Symeou, 20 oed, achos yn yr Uchel Lys yn erbyn cael ei estraddodi.

Mae'n dweud bod y dystiolaeth yn ei erbyn wedi cael ei ffugio.

Fe ddisgynnodd Mr Hiles o Ystum Taf oddi ar lwyfan dawnsio ar ôl cael ei daro'n anymwybodol pan gafodd ei daro'n ei wyneb yn ôl yr honiad.

Gwarant

Dioddefodd anafiadau difrifol i'w ben a bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach o'i anafiadau.

Roedd yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg wedi cyflwyno Gwarant Arestio Ewropeaidd.

Andrew Symeou
Mae Andrew Symeou wedi gwadu cyfrifoldeb am y farwolaeth

Honna cyfreithiwr Mr Symeou, Edward Fitzgerald QC bod y cais gwreiddiol i estraddodi wedi methu ystyried honiadau bod tystion wedi cael eu perswadio i roi datganiadau.

Roedd dau o ffrindiau Mr Symeou wedi aros ar yr ynys ac mae tystiolaeth eu bod wedi cael eu curo tra yn y ddalfa, yn ôl Mr Fitzgerald.

Ond dadl yr awdurdodau yng Ngwlad Groeg ydi bod Mr Symeou, sy'n astudio ym Mhrifysgol Bournemouth, yn mynd i gael achos teg yn y wlad ac mai yn y llys yno y mae'r lle gorau ar gyfer ystyried yr honiadau sy'n cael eu gwneud.

Y llynedd dywedodd tad Mr Hiles, Denzil, ei fod yn rhwystredig am yr holl oedi.



HEFYD
Dynladdiad: Llys yng Ngroeg
01 Mai 09 |  Newyddion
Groeg: Canfod tyst
29 Tach 07 |  Newyddion
Groeg: Myfyriwr i sefyll ei brawf
30 Hyd 08 |  Newyddion
Lladd Cymro: Achos estraddodi
30 Medi 08 |  Newyddion
Groeg: Brwydro yn erbyn estraddodi
12 Maw 09 |  Newyddion
Cymro 18 oed yn marw ar wyliau
24 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific