Un o sachau arbennig y cwmni
|
Mae cwmni o Fethesda wedi ennill anrhydedd am ei waith yn arbed bywydau o America i'r Ffindir. Ddeng mlynedd yn ôl, gwerthu dillad tywydd garw ar stondinau mewn marchnadoedd oedd hanes Blizzard Protection Systems. Dydd Mawrth derbyniodd y cwmni Wobr y Frenhines am Ddyfeisgarwch. Mae Blizzard wedi creu sachau arbennig sydd yn cael rhoi o amgylch pobl yn dioddef o'r oerfel. Mae hypothermia yn taro milwyr wedi eu hanafu ar faes y gad yn gallu eu lladd, ond mae'r sachau yma yn gallu eu cadw'n fyw. Dyna pam mai byddinoedd America, yr Almaen a'r Ffindir yw prif gwsmeriaid y cwmni o Ddyffryn Ogwen. Roedd seremoni ddydd Mawrth, gydag Arglwydd Raglaw Gwynedd, y Barnwr Huw Daniel, yn cyflwyno'r wobr i'r cwmni. 'Gwaith caled' Yn ôl un o'r gweithwyr, Lorraine Williams: "Mae'n wobr am y gwaith caled 'da ni gyd wedi ei wneud i'r cwmni. " 'Da ni gyd yn falch iawn. "Mae'r cwmni yn dal i dyfu ac yn llwyddiannus" Ddwy flynedd yn ôl, 12 o bobl oedd yn gweithio i Blizzard ym Methesda, ond erbyn hyn mae 50 yno. A chyda Gwobr y Frenhines am Ddyfeisgarwch mae'r cwmni wedi mynd o stondin fach y farchnad i'r llwyfan mawr rhyngwladol.
|