British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009, 21:33 GMT 22:33 UK
Cwmni i ailystyried cynnig

Aliwminiwm Môn
Dim ond 80 o weithwyr fyddai ar ôl ar y safle petai'r cwmni'n gwrthod y cymorth

Fe fydd perchnogion Aliwminiwm Môn yn ailystyried cynnig gan lywodraethau'r DU a Chymru i achub y ffatri a diogelu swyddi.

Bu gwleidyddion a swyddogion o'r cwmni yn trafod dyfodol y cwmni am dros dair awr a hanner nos Lun.

Fe fydd bwrdd Aliwminiwm Môn yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod cynnig gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad o bron i £50 miliwn.

Mae'r safle yn cyflogi 500 o weithwyr ac eisoes mae 'na gyhoeddiad bod 250 o swyddi i ddiflannu yn ychwanegol at y 140 o ddiswyddiadau gwirfoddol a gyhoeddwyd yn gynharach yn y mis.

Gall cannoedd o swyddi gael eu colli yn y ffatri ym mis Medi oni bai y bydd modd i gwmni Aliwminiwm Môn newid eu meddwl a chau'r ffatri.

Ar hyn o bryd mae'r ffatri yn derbyn cyflenwad trydan yn rhad o orsaf niwclear Yr Wylfa.

Trafod pellach

Ond daw'r cytundeb i ben ym mis Medi a dydi'r cwmni ddim wedi canfod cyflenwr rhad arall.

Fe wnaeth Aliwminiwm Môn wrthod cynnig gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad yn gynharach yn y mis o gymhorthdal o bron i £50 miliwn dros bedair blynedd.

Nos Lun bu Ysgrifennydd Cymru Peter Hain yn rhan o'r trafodaethau gyda'r cwmni i'w perswadio i dderbyn y cynnig.

Fe wnaeth cyfarwyddwyr perchnogion Aliwminiwm Môn, Rio Tinto Alcan and Kaiser Aluminium, gytuno i drafod y cynnig ddydd Mawrth gyda'r bwrdd llawn.

Ond yn ôl ffynhoellau doedd y gweinidog ddim yn ffyddiog.

"Yn ystod y cyfarfod nos Lun fe wnaethom ail adrodd y cynnig o bron i £50 miliwn i ddiogelu 350 o swyddi ar y safle," meddai Mr Hain ar ôl y cyfarfod.

"Fe wnaeth y cwmni dderbyn ei fod yn gynnig hael ac addo ei drafod mewn cyfarfod llawn o fwrdd Aliwminiwm Môn ddydd Mawrth.

"Rydym yn deall y pwysau masnachol sydd 'na ar y cwmni ond yn gobeithio y bydd y bwrdd llawn yn ystyried y cynnig hael a'r ymrwymiad sydd ganddyn nhw i bobl Ynys Môn ar ôl 40 mlynedd o waith cynhyrchu ar yr ynys."

Roedd cynrychiolwyr yr undeb, AS Ynys Môn Albert Owen a gweinidogion Swyddfa Cymru, Wayne David ac Ian Lucas yn bresennol yn y cyfarfod hefyd.



HEFYD
Aliwminiwm: 250 i golli gwaith
16 Gorff 09 |  Newyddion
Alwminiwm: Pecyn cymorth £48m
01 Gorff 09 |  Newyddion
'Pryder am 500 o swyddi'
15 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific