Mae angen gwneud mwy i hybu cynnyrch o Gymru
|
Mae angen penodi hyrwyddwr bwyd er mwyn hybu'r diwydiant bwyd yng Nghymru. Dyna gasgliad is-bwyllgor datblygu gwledig y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn adroddiad newydd maen nhw'n dweud eu bod nhw'n pryderu bod gormod o strategaethau gan Lywodraeth y Cynulliad sy'n amharu ar y gwaith o gynhyrchu a hyrwyddo cynnyrch o Gymru. Dywed Llywodraeth y Cynulliad bod y broses o benodi hyrwyddwr bwyd eisoes ar y gweill a'u gobaith ydi penodi rhywun erbyn mis Tachwedd. Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud bod 'na "golli cyfle" wedi bod o ran hybu bwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Ond penodi hyrwyddwr bwyd ydi un o'r prif argymhellion yn yr adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn y Sioe Frenhinol Amaethyddol yn Llanelwedd. 'Colli momentwm' Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Alun Davies eu bod yn bryderus bod 'na ddiffyg cydweithio rhwng yr holl gyrff allanol. "Roedd yr honiadau o ran colli arbenigedd hefyd yn peri pryder i ni." "Ar un adeg, y farn oedd bod Llywodraeth Cymru yn arwain o ran arloesedd, cymorth a datblygiad a chredwn bellach fod angen polisi cydlynol llawn ar gyfer hybu bwyd Cymru i adfer y sefyllfa honno." Yn ystod ymholiadau fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Undeb NFU Cymru bod 'na "golli momentwm" o ran yr agenda fwyd ers i Asiantaeth Datblygu Cymru ddod yn rhan o'r llywodraeth.
Fe gyhoeddodd y llywodraeth lyfryn am fwyd môr Cymru yn ddiweddar
|
Dywedodd Mr Davies bod y pwyllgor yn teimlo y dylai'r Gweinidog Materion Gwledig Elin Jones sicrhau bod anghenion Cymru'n cael eu cynrychioli'n llawn pan fydd Ombwdsmon Prydain yn cael ei sefydlu, gan gynnwys darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog ar gyfer Cymru. "Dylai'r Gweinidog gynrychioli anghenion cynhyrchwyr a defnyddwyr Cymru'n llawn, a mynegi pryderon a godir ynghylch tarddle cynnyrch Cymru, a'r gallu i'w olrhain, yn y trafodaethau parhaus ar labelu gwlad tarddiad ar lefel Ewrop," ychwanegodd. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad bod y broses o benodi hyrwyddwr wedi cychwyn ers mis Mai a'i fod yn rhan o Wobr Cymru y Gwir Flas. "Fe fydd y Gweinidog yn derbyn rhestr fer o ymgeiswyr yn yr hydref cyn y bydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd," meddai'r llefarydd. "Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwadu'r syniad bod 'na 'golli momentwm' wedi bod. "Mae'r cynnyrch, y cyflenwad a hybu'r bwyd yn ganolog i waith yr adran ac mae'r llywodraeth wedi atgyfnerthu'r adran fwyd yn Aberystwyth. "Yn ddiweddar mae'r gweinidog hefyd wedi apwyntio partneriaeth bwyd a diod i gynghori a rhoi gwybodaeth iddi ar lunio polisïau yn y sector. "Dr Haydn Edwards, a ddatblygodd Ganolfan Fwyd yng Ngholeg Menai yn Llangefni sydd wedi cael ei apwyntio'n gadeirydd y bartneriaeth."
|