British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009, 19:07 GMT 20:07 UK
Teyrnged teulu i redwr Yr Wyddfa

Mark Lear
Nid dyma'r tro cyntaf i Mark Lear gystadlu yn y ras

Mae teulu rhedwr wnaeth farw wrth gymryd rhan yn Ras Yr Wyddfa wedi talu teyrnged iddo ac i'r rhai wnaeth geisio ei achub.

Roedd Mark Lear, 45 oed, o Bentir ger Bangor ymhlith bron i 500 o redwyr oedd yn cymryd rhan yn y ras ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Mr Lear syrthio ger gorsaf Clogwyn 300 medr yn is na'r clogwyn wrth redeg i'r copa.

Roedd Mr Lear wedi cwblhau'r ras sawl gwaith yn y gorffennol.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu eu bod eisiau diolch i bawb wnaeth geisio ei achub.

"Rydym yn credu bod 'na ddau yn benodol wnaeth aros i helpu," meddai'r teulu.

"Rydym eisiau diolch i Gillian (na wyddom ei chyfenw) a oedd yn rhedeg y tu ôl i Mark ac i Wynford a oedd hefyd yn rhedeg ac sy'n digwydd bod yn barafeddyg.

"Ac wrth gwrs i'r meddyg wnaeth gyrraedd yn fuan wedyn."

'Yn dawel'

Dywedodd y teulu ddydd Llun eu bod yn credu iddo ddiodde trawiad ar y galon.

Yn ôl y teulu roedd yn frwdfrydig iawn ynglŷn â rhedeg ers iddo gymryd diddordeb yn y gamp yn 17 oed.

"Roedd rhedeg yn ddihangfa iddo, yn ffordd o ymlacio," ychwanegodd y teulu.

Yn ogystal â chymryd rhan yn Ras Yr Wyddfa ar sawl achlysur roedd Mr Lear hefyd wedi cymryd rhan mewn treithalon, naid parasiwt ac yn feiciwr brwd gan deithio dramor hefyd.

Roedd o wedi beicio o John O'Groats i Lands End ddwywaith ar ran elusen.

"Fyddai o byth yn dweud wrth bobl pryd y byddai'n gwneud rhywbeth, dim ond ei wneud yn dawel," meddai'r teulu.

Roedd Mr Lear, cyn-ddisgybl yn Ysgol Friars Bangor, yn beiriannydd sifil.

Mae'n gadael dau frawd a phedair chwaer a'i fam yr oedd yn byw gyda hi ym Mhentir.



HEFYD
Rhedwr yn marw yn Ras yr Wyddfa
19 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific