British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009, 18:24 GMT 19:24 UK
Irac: Gweddw yn ceisio iawndal

Julian Davies
Roedd Julian Davies yn gweithio i gwmni diogelwch

Mae gweddw dyn a gafodd ei saethu'n farw wrth iddo weithio fel ymgynghorydd diogelwch yn Irac, wedi mynd a'i chais am iawndal i'r Uchel Lys.

Cafodd y cyn-filwr Julian Davies, 39 oed o'r Barri, ei ladd wrth iddo yrru drwy ddinas Mosul yn 2004.

Mae cyfreithwyr ar ran Joanne Davies, sy'n ceisio hawlio £300,000, yn dweud wrth y gwrandawiad bod y cwmni yr oedd Mr Davies yn gweithio iddo wedi methu "yn ddyletswydd gofal".

Mae Global Strategies Group yn gwadu atebolrwydd am farwolaeth Mr Davies.

Dywedodd Nicholas Braslavsky QC wrth Mr Ustus Burnett y dylai Mr Davies fod wedi cael offer diogelwch, cerbyd arfog neu gerbyd oedd yn gwrthsefyll bwledi.

Petai hyn ganddo fyddai'r fwled ddim wedi ei ladd, meddai wrth y llys.

Eglurodd bod dau gwmni Global Strategies - un yn Hong Kong ac un yn y DU - wedi methu ystyried pryderon uwch swyddogion am ddiogelwch staff yn Irac.

Doedd ganddyn nhw ddim cynllun gwrthgefn ar gyfer sefyllfa argyfwng fel yn achos Mr Davies.

Cymorth

Ar y diwrnod y bu farw Mr Davies, Mehefin 24 2004, roedd rhaid i'r cerbydau yr oedd yn teithio ynddo newid y llwybr ar ôl i fom ffrwydro.

Roedd ymysg 15 o ddynion oedd yn teithio mewn tri cherbyd pan ymosodwyd ar y confoi.

Cafodd Mr Davies ei saethu yn ei ben a'i gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty ond bu farw er gwaetha ymdrechion i'w achub.

Byddin America oedd wedi galw am gymorth cwmni Global Strategies i helpu gyda'r gwaith o ail-adeiladu Irac ar ôl y rhyfel.

Dywedodd Robert Jay QC ar ran y cwmni bod Mr Davies yn cael ei gyflogi gan adain Hong Kong o'r cwmni yn hytrach na'r adain yn y DU.

Petai dyna'r achos yn ôl Mr Braslavsky - ac mae'n anghytuno - yna fe fydd hi'n anodd i Mrs Davies ennill unrhyw swm o arian.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mrs Davies, a oedd yn gyn-filwr ei hun, bod ganddi bryderon am ei waith yn Irac.

"Roedd Julian yn gwneud be oedd Julian eisiau eu gwneud," meddai.

"Doeddwn i ddim yn hapus, fel unrhyw wraig dwi'n siwr, ei fod yn mynd i ardaloedd peryglus."

Oherwydd ei bryderon am ddiffyg cyfarpar addas dywedodd Mrs Davies bod ei gwr yn ystyried swyddi eraill yn Irac.

Ar ôl ei farwolaeth fe wnaeth cwest yng Nghaerdydd gofnodi iddo farw ar ôl cael ei saethu.

Bydd rhaid i Mr Ustus Burnett benderfynu a oedd un neu'r ddau gwmni Global Strategies yn atebol am farwolaeth Mr Davies, ac os felly faint o iawndal y dylai Mrs Davies ei dderbyn.

Mae Mrs Davies yn gwneud cais am ei phrofedigaeth, colli cyflog ei gwr a'r cymorth y byddai'n ei roi iddi yn y t?.

Er na chafodd ffigwr ei nodi yn y llys mae Mrs Davies yn gwneud cais am dros £300,000 ac mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Gweddw'n ystyried erlyn am iawndal
10 Rhag 05 |  Newyddion
Cwest: Saethu swyddog yn Irac
09 Rhag 05 |  Newyddion
Saethu Cymro'n farw yn Irac
29 Meh 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific