Mae'r heddlu wedi apelio i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw
|
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddamwain farwol ger Wrecsam nos Sul. Dywed Heddlu'r Gogledd bod dau ddyn yn teithio o bentref Llai i ganol tref Wrecsam pan gafodd eu car wrthdrawiad yn Rhosddu am 10.50pm. Aed â'r ddau ddyn i Ysbyty Maelor Wrecsam lle bu farw'r gyrrwr, Aaron Griffiths-Mahoney, 20 oed o Frynteg. Mae'r teithiwr 22 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol. Mae'r heddlu wedi apelio i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 0845 6071001 neu 1002
|