British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009, 06:00 GMT 07:00 UK
Cwmni: Cytuno ar y funud ola?

Aliwminiwm Môn
Y cwmni: Un o gyflogwyr mwya'r gogledd

Fe fydd cyfarfod hollbwysig rhwng gwleidyddion ac aelodau bwrdd nos Lun allai benderfynu tynged Cwmni Aliwminiwm Môn, un o brif gyflogwyr y gogledd.

Yn y cyfarfod am 6pm yn Swyddfa Cymru yn Llundain mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, yr AS lleol Albert Owen, ac aelodau bwrdd y perchnogion, Rio Tinto a Kaiser.

Y nod yw trafod pecyn cymorth.

Dechrau Gorffennaf fe wrthododd y cwmni becyn cymorth £50 miliwn oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Prydain.

Yr wythnos ddiwetha cyhoeddodd y cwmni y byddai 250 o swyddi yn diflannu.

'Paratoi'r ffordd'

Dydd Gwener roedd cyfarfod rhwng Mr Hain, Mr Owen, arweinwyr undeb a'r rheolwr gyfarwyddwr, David Bloor, yn y gwaith er mwyn "paratoi'r ffordd" ar gyfer cyfarfod nos Lun.

Ar ôl y cyfarfod dywedodd Mr Hain ei fod "yn fwy gobeithiol".

"Rydyn ni wedi trafod yn fanwl yr hyn allai rwystro cytundeb ...

"Heb os, rydyn ni'n sylweddoli pa mor bwysig yw'r cwmni i'r ynys ac fe wnawn ni ein gorau glas i daro bargen fydd yn golygu y bydd yn goroesi."

Roedd y safle yng Nghaergybi ar un adeg yn cyflogi bron 500.

Dywedodd y cwmni fod y diswyddiadau oherwydd "methiant y safle" i ddod o hyd i gytundeb fyddai'n sicrhau cyflenwad o drydan rhad.

Mae cytundeb y cwmni â Gorsaf Bŵer Niwclear Yr Wylfa i gael trydan rhad yn dod i ben ym mis Medi.

Newyddion trist

Yn ôl amserlen y cwmni, bydd cynhyrchu alwminiwm yn dod i ben yr un mis.

Dywedodd Bob Parry, dirprwy arweinydd Cyngor Môn, fod y diswyddiadau'n newyddion trist.

"Mi oeddwn i'n amau fod 'na rywbeth ar y ffordd oherwydd bod y diswyddiadau wedi bod o'r blaen ac mi oeddwn i'n amau y buasai 'na 'chwaneg."

Mae llythyrau eisoes wedi eu hanfon at y gweithwyr yn eu hysbysu o'r bwriad i ddiswyddo 250.

Byddai hynny'n golygu y byddai 80 o bobl yn parhau i weithio ar y safle aildoddi metalau.



HEFYD
Aliwminiwm: 250 i golli gwaith
16 Gorff 09 |  Newyddion
Alwminiwm: Pecyn cymorth £48m
01 Gorff 09 |  Newyddion
'Pryder am 500 o swyddi'
15 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific