Yr enillydd: Andi Jones o Loegr
|
Fe lwyddodd yr heddlu, yr Awyrlu a Thîm Achub Mynydd Llanberis i achub pedwar o redwyr Ras yr Wyddfa ddydd Sadwrn. Ond fe gyhoeddwyd bod un yn farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Y gred yw ei fod yn 45 oed ac o Wynedd. Dywedodd yr Arolygydd Ian Maxwell y dylai pawb ar y mynydd fod "yn fwy gofalus" a sirchau bod ganddyn nhw'r cyfarpar iawn. 'Heb eu hail' "Mi ddylen nhw rhoi gwybod i rywun lle maen nhw'n bwriadu cerdded - a bod yn ddigon profiadol i ddelio â'r hyn sy'n digwydd ar y mynydd." Dywedodd cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Elfyn Jones, fod trefniadau diogelwch y ras "heb eu hail". "Mi aeth yn anymwybodol ger Clogwyn ... ond mi gafodd driniaeth o fewn eiliadau cyn mynd ar frys mewn hofrennydd i'r ysbyty." Roedd 500 yn y ras ddechreuodd yn 1975. Yr enillydd am y bedwaredd flwyddyn o'r bron oedd Andi Jones o Loegr - 10 milltir mewn 1 awr 8 munud.
|