Fe gafodd dyn 20 oed ei arestio
|
Mae'r heddlu wedi arestio dyn wedi digwyddiad gyda gwn nos Sadwrn. Cafodd plismyn arfog eu hanfon i Heol Gilfach yn Nhonypandy, Cwm Rhondda. Dywedodd yr heddlu eu bod angen gwybod pwy oedd y pedwar oedd ar feic modur glas a gwyn ar wahanol adegau rhwng 8.30pm a 9.30pm. Roedd y pedwar yn eu hugeiniau. Dywedodd yr heddlu fod un yn gwisgo top llwydfelyn, un yn gwisgo crys-T gwyn, un yn gwisgo siaced ddu â llewys porffor a'r un ola'n gwisgo top melyn. "Roedd hwn yn ddigwyddiad anarferol iawn," meddai'r Ditectif Arolygydd Paul Latham. "Mae ein hymchwiliad ni'n parhau." Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01443 485351 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
|