British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 19 Gorffennaf 2009, 11:35 GMT 12:35 UK
Ymosodiad rhywiol: Iawndal

Mae teulu merch dair oed gafodd ei chipio yn 2006 cyn i bidoffeil ymosod yn rhywiol arni wedi dweud bod yr heddlu wedi ymddiheuro.

Dywedodd y teulu fod yr heddlu wedi cytuno i dalu "iawndal sylweddol".

Cipiodd Craig Sweeney, 24 oed, y ferch o'i chartref yng Nghaerdydd yn Ionawr 2006 cyn ymosod yn rhywiol arni.

Roedd y teulu wedi dweud y bydden nhw'n dwyn achos sifil yn erbyn Heddlu De Cymru am "fethu ag amddiffyn eu plentyn yn erbyn rheibiwr plant peryglus ..."

Yn 2005 roedd Sweeney wedi ei ryddhau o'r carchar ar drwydded wedi trosedd rywiol ar blentyn.

Roedd wedi dod yn gyfeillgar â theulu'r ferch o Gaerdydd cyn mynd â hi i'w fflat yng Nghasnewydd lle ymosododd arni'n rhywiol.

'Hunlle'

Yn ôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, gallai'r heddlu fod wedi osgoi rhan o "hunlle frawychus" y ferch.

Er bod mam y ferch wedi rhoi enw Sweeney a'i gyfeiriad yng Nghasnewydd i'r heddlu, nid aeth yr heddlu 'r cyfeiriad naw milltir i ffwrdd tan ar ôl i Sweeney fynd â'r ferch i Loegr.

Ymosododd ar y ferch eto mewn cilfan.

Cafodd ei ddal ar ôl iddo yrru drwy oleuadau coch yn Wiltshire.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, David Morris: "Rydyn ni'n cydnabod na chyrhaeddon ni ein safonau uchel arferol ac na wnaethon ni bopeth posib i geisio amddiffyn Plentyn A ar Ionawr 2 a 3, 2006.

'Ymddiheuro'

"Unwaith eto rydyn ni'n ymddiheuro i'r ferch a'i theulu oherwydd ein hymateb cychwynnol i'r hyn ddigwyddodd.

"Ond rydyn ni wedi dysgu gwersi ... ac mae dulliau cadarn mewn grym sy'n golygu bod ein plismyn a staff yn cael eu hyfforddi'n drylwyr.

"Ers tair blynedd mae mwy na 50 o blismyn, arolygwyr a rhengoedd uwch, wedi dilyn cyrsiau sut i ddelio â chipio a herwgipio."



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific