Y Co-op yn Waunfawr, Aberystwyth
|
Mae cwmni'r Co-op yn Aberystwyth wedi gwerthu archfarchnad i gystadleuydd, Archfarchnadoedd CK. Dywedodd y Co-op eu bod yn gwerthu'r archfarchnad yn Waunfawr er mwyn dilyn rheolau cystadlu. Mae'r cwmni wedi prynu cwmni Somerfield ac o fewn dwy flynedd fe fydd archfarchnad Somerfield yn y dre yn newid enw. Mae llefarydd wedi dweud: "Fe fydd staff archfarchnad Waunfawr yn trosgwlyddo i CK ac ni fydd eu telerau gwaith yn newid." Fe fydd swyddfa bost ar y safle hefyd yn trosglwyddo i'r perchnogion newydd, meddai. Yn y gorllewin a'r de roedd gan CK 17 o archfarchnadoedd. Yn ddiogel Dywedodd Christopher Kiley o'r cwmni: "Rydyn ni ar ben ein digon am ein bod ni wedi llwyddo i gael yr archfarchnad yn Waunfawr. "Dwi'n falch i ddweud y bydd swydd pob aelod staff yn ddiogel. "Mae pedair archfarchnad newydd, gan gynnwys rhai yn y Drenewydd a Threorci, yn golygu taw ni yw'r gwerthwr bwyd annibynnol mwya yng Nghymru. "... fe fydd y cyfleoedd yn gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus i'r archfarchnad yn Aberystwyth."
|