Cafodd yr ardal ei chau ddydd Sul
|
Mae merch dair oed a dyn 33 oed wedi marw ar ôl cwympo 50 troedfedd i lawr rhaeadr ger Harlech. Y gred yw bod y ddau'n dad a merch a bod y teulu o Fanceinion yn gwersylla gerllaw. Fe gafodd y gwasanaethau brys wybod fod y ddau ar goll yn Llanbedr am 4pm ddydd Sadwrn. Ar ôl derbyn galwad bod y ddau wedi cwympo i lawr Rhaeadr Nantcol fe chwiliodd hofrennydd, criwiau ambiwlans a dau ddeifiwr amdanyn nhw. Daethpwyd o hyd i'r cyrff ddwy awr yn ddiweddarach mewn pwll. Mae'r heddlu a'r awdurdod lleol yn ymchwilio'n llawn ac mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod. 'Rhywbeth o'i le' Y ddau ddeifiwr oedd rheolwr Maes Gwersyll Mochras, Richard Workman, a'i gydweithiwr, James Hordley. "Mi welon ni'r hofrennydd uwchben y rhaeadr ac felly mi oedden ni'n gwybod bod rhywbeth o'i le," meddai Mr Workman. "Mi gynigiodd y ddau ohonon ni helpu chwilio am y ddau a chytunodd yr heddlu. "Mae'n rhaid ein bod ni yn y dŵr am awr." Dywedodd Mr Hordley: "Y cyfan yr oeddwn i'n meddwl amdano oedd dod o hyd i'r ferch a mynd â hi'n ôl yn saff." 'Peryglon' Dywedodd Alan Edwards, rheolwr diogelwch cymunedol y gwasanaeth tân: "Cafodd y ddau gorff eu darganfod mewn pwll am 5.56pm neithiwr. "Mae'r drychineb yn dangos beth yw peryglon nofio mewn mannau sy ddim yn gyfarwydd i bobl. "Dylai pawb fod yn fwy gofalus nag arfer wrth fentro i'r dŵr neu wrth ymyl dŵr."
|