British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 18 Gorffennaf 2009, 10:23 GMT 11:23 UK
'Pa mor bwysig yw tai fforddiadwy'

Safle adeiladu
Nod y ffair yw rhoi gwybodaeth am y gwahanol opisynau

Mae pryder am ddyfodol swyddi ar Ynys Môn yn dangos pa mor bwysig yw tai fforddiadwy, yn ôl trefnydd ffair sy'n ceisio helpu pobl sy'n prynu tŷ am y tro cynta.

Daw'r Ffair Dai i Langefni ddydd Sadwrn wrth i gwmni Aliwminiwm Môn gyhoeddi bod hyd at 290 o swyddi yn diflannu.

Yn y ffair mae cwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus yn rhoi gwybod i'r cyhoedd beth yw'r opsiynau gwahanol.

Dywedodd y trefnydd Stephen Jones fod angen help ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd yn y farchnad agored.

Bydd pobl yn cael gwybod am gynlluniau lle mae cynghorau lleol yn prynu rhan o dŷ fel y gall pobl gael morgais o fewn eu cyrraedd.

150

Mae disgwyl tua 150 o brynwyr tro cynta fynd i'r ffair yn Neuadd Tre Ysgwen yn Llangefni.

Yno hefyd bydd cyfreithwyr, asiantaethau tai a datblygwyr.

Dywedodd Mr Jones fod y newyddion diweddara am swyddi ar yr ynys yn achos pryder.

"Bydd colli swyddi sy'n talu'n dda yn ergyd i economi'r ynys."

Er y gallai prisiau tai ostwng, meddai, dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu y bydd hi'n haws i brynu.

'Anodd iawn'

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tŷ am y tro cynta, meddai, yn gyplau dibriod gydag incwm ar y cyd o lai na £25,000.

"Y broblem ar hyn o bryd yw ei bod yn anodd iawn i'r bobl hyn gael morgais oherwydd bod angen mwy o flaendal oherwydd yr argyfwng credyd.

"Felly nid yw gostyngiad ym mhris tai yn golygu o reidrwydd ei bod yn haws iddyn nhw allu prynu."

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud eu bod yn anelu at godi 6,500 o dai fforddiadwy yng Nghymru erbyn 2011.



HEFYD
Tai fforddiadwy: Problemau
21 Tach 08 |  Newyddion
Cefn gwlad: Mwy o dai fforddiadwy?
15 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific