Mae Mike Phillips wedi cynrychioli Cymru a'r Llewod
|
Mae mewnwr Cymru a'r Llewod, Mike Phillips wedi ei arestio yn dilyn ymosodiad honedig ar yrrwr tacsi ym Mhenarth. Cafodd y mewnwr 26 oed ei arestio yn ei gartref ar ôl i'r gyrrwr honni ei fod o wedi ymosod arno yn dilyn ffrae am bris y daith. Mae o bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu. Dywed Heddlu'r De fod dyn 26 oed wedi ei arestio ac yna ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod eu hymholiadau'n parhau. Dywedodd asiant y chwaraewr, Mike Burton, fod yr honiad yn gwbl ddi-sail. "Mae Mike Phillips wedi cydweithio gyda'r ymchwiliad. Ond does dim sail i'r honiad." Dywed i'r ymosodiad honedig ddigwydd tri diwrnod ar ôl i Mr Phillips ddychwelyd adre o daith y Llewod i Dde Affrica.
|