Yr heddlu'n credu bod y lladrad rywbryd rhwng Gorffennaf 1 a 12
|
Mae'r heddlu wedi dweud bod lladron yn peryglu eu bywydau wrth geisio dwyn ceblau copr o linellau trydan. Daw'r rhybudd diweddara wedi i geblau gael eu dwyn o linellau trydan ar fynydd rhwng Blaenafon ger Y Fenni ac Abersychan. Dywedodd yr heddlu fod dwy farwolaeth wedi bod oherwydd pobl yn ceisio dwyn ceblau o'r fath. "Rydyn ni'n cydweithio â chwmni Western Power i geisio delio â'r broblem beryglus hon," meddai 'r Arolygydd Matthew Williams. "Mae yna ddwy farwolaeth wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwetha wrth i bobl geisio dwyn metalau a cheblau. "Os yw rhai'n meddwl bod hon yn ffordd hawdd o wneud arian, fe allai'r gost fod yn uchel, colli bywyd." Mae'r heddlu'n credu bod y lladrad rywbryd rhwng Gorffennaf 1 a 12. Dylai unrhywun sydd ag unrhyw wybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddi-enw ar 0800 555 111.
|