Gall y prosiect arwain at hyd at 650 o swyddi
|
Mae'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi dweud bod bron £30 miliwn ar gael ar gyfer datblygu ail gam y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Gallai hyn arwain at hyd at 650 o swyddi. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi £8.5 miliwn a'r Gronfa Gydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd yn cyfrannu £12.8 miliwn. Fe fydd y brifysgol yn cyfrannu £6.4 miliwn a'r ymddiriedolaeth iechyd leol yn cyfrannu £1 miliwn. Mae'r ail gam hwn yn cynnwys canolfan ymchwil clinigol fydd yn "datblygu cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer y diwydiant gofal iechyd". Fe gafodd cam cyntaf y sefydliad ei agor yn 2007 ac yno mae labordai sy'n ymchwilio i ganser, gordewdra a chlefyd siwgr. 'Safle gorau' Dywedodd Mr Morgan: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos ... ein bod yn gosod Cymru yn y safle gorau posibl i fod yn gystadleuol pan fydd y sefyllfa economaidd yn gwella. "O fwrw ymlaen ag ail gam y sefydliad, fe allwn ni ddatblygu'r clwstwr gwybodaeth gwyddor bywyd yn y de-orllewin. "Mae'r maes hwn eisoes yn tyfu ac yn rhoi'r ardal hon ymhlith y cryfa yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart: "Mae hyn yn dangos y pwyslais yr ydyn ni'n ei roi ar ymchwil meddygol a'r manteisio y gall eu creu. "Rhaid dweud bod gwaith y sefydliad yn ategu'r astudiaethau a datblygiadau yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gafodd ei sefydlu'r llynedd." 'Pwysig iawn' Mae Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard B Davies wedi dweud: "Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig iawn i'r brifysgol. "Bydd yr arian yn golygu y gall yr Ysgol Feddygaeth greu canolfan ragoriaeth ym maes ymchwil gwyddor bywyd. "Bydd yr ardal a gweddill y wlad ar eu hennill." Ym Mhrifysgol Abertawe, gafodd ei sefydlu yn 1920, mae mwy na 13,800 o fyfyrwyr.
|