British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009, 14:45 GMT 15:45 UK
Corff: 'Ddim yn amheus'

Heddlu'n ymchwilio
Cafodd y corff ei ddarganfod ddydd Gwener.

Mae'r heddlu wedi dweud nad yw marwolaeth menyw y daethpwyd o hyd i'w chorff brynhawn Gwener yn amheus.

Roedd menyw oedd wedi parcio ei char wedi dod o hyd i'r corff ym maes parcio Ffordd Tan-y-bont ger Castell Caernarfon am 1pm.

Y gred yw bod y fenyw fu farw yn ei thridegau ac yn lleol.

Cafodd rhan o'r ardal ei chau am oriau wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae Crwner Gogledd-Orllewin Cymru wedi cael gwybod ac mae'n debyg y bydd cwest yn cael ei agor yr wythnos nesa.

Nos Wener aed â'r corff i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar gyfer archwiliad post mortem.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific