British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2009, 14:27 GMT 15:27 UK
Meistres puteiniaid i dalu £2.6m

Diana Jones
Bydd rhaid i Jones dalu £2.6 miliwn neu fynd i'r carchar

Mae menyw oedd yn rheoli pedwar puteindy wedi cael gorchymyn llys i ad-dalu £2.6 miliwn.

Cafodd Diana Jones, 46 oed o ardal Caerfyrddin, ddedfryd ohiriedig o 12 mis o garchar yn Ionawr 2008 am redeg puteindai ac am brosesu arian anghyfreithiol.

Roedd hi'n un o bum menyw blediodd yn euog i gyhuddiadau'n ymwneud â thri safle yng Nghaerdydd ac un yn Swindon.

Fe orchmynnodd Llys y Goron Merthyr Tudful y byddai rhaid iddi dalu'r arian o fewn chwe mis neu gael ei charcharu am bedair blynedd.

Roedd gwrandawiad yn Chwefror 2009 wedi clywed bod Jones wedi elwa ar £4m oherwydd gweithgareddau anghyfreithlon.

Moethusrwydd

Dywedodd ei chyfreithiwr wrth y llys ei bod hi dramor ar hyn o bryd.

Fe fydd angen mynd â mwy na £116,000 oddi wrth y pedair menyw arall sy'n gysylltiedig â'r achos.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Dodd, oedd yn gyfrifol am gofnodi enillion y diffynnydd, fod Jones wedi mwynhau cryn foethusrwydd.

"Fe fyddwn ni nawr yn helpu'r llysoedd i sicrhau fod Jones yn talu'r hyn sy'n ddyledus ..."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific