Daethpwyd o hyd i becynnau mewn lori fore Iau
|
Mae Cymro gafodd ei gyhuddo o smyglo gwerth £5.4m o heroin a gwerth £60,000 o amffetiminau wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Roedd David Lewis, 47 oed o Fwcle, Sir y Fflint, gerbron Ynadon Folkestone ddydd Gwener. Fe fydd gerbron llys eto ar ddyddiad i'w bennu. Daeth swyddogion Asiantaeth y Ffiniau o hyd i becynnau o gyffuriau Dosbarth A oedd wedi eu cuddio yn ei lori ym mhorthladd fferi Dover fore Iau. Mae swyddogion Tollau Tramor a Chartref yn ymchwilio.
|